"Ffyniant economaidd ddim o reidrwydd yn arwain at gynaladwyedd y Gymraeg"

Mewn fforwm agored yn Llyfrgell Caerfyrddin heddiw (dydd Sadwrn 18/5) cynhaliodd rhanbarth Caerfyrddin drafodaeth ar sut y gallai rhwydwaith o Fentrau Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin fod yn rhan o strategaeth datblygu economaidd a fydd yn hyrwyddo'r iaith a chymunedau Cymraeg.

Rhoddodd Cadeirydd (Sel Wiliams) a Phrif Weithredwr (Haydn Wyn Jones) Cymunedoli, mudiad ymbarél o fentrau cymunedol Gwynedd yn rhoi arweiniad i'r cyfarfod trwy esbonio'r hyn sydd wedi digwydd yn y sir honno. Erbyn hyn y mae mentrau cymunedol lleol Gwynedd yn cyflogi 454 o bobl yn eu cymunedau, gyda throsiant blynyddol o £13.5miliwn, ac yn berchen ar asedau gwerth £43.2miliwn.

Cymdeithas yr Iaith yw'r corff sy'n arwain ar thema "Economi ac Iaith" yn Fforwm Iaith Sirol Sir Gaerfyrddin. 

Wrth roi ymateb i gyflwyniad Cymunedoli ar ran Cymdeithas yr Iaith dywedodd Wynfford James:
"Mae angen cofio nad yw ffyniant economaidd yn arwain at gynaladwyedd y Gymraeg o reidrwydd, ac felly bod angen gofod ar gyfer mentergarwch cymunedol. Mae mentrau cymunedol yn gallu chwarae rhan bwysig mewn adfywio cymunedau sydd wedi dioddef o ddirywiad economaidd a chymdeithasol. Mae hynny yn golygu creu lleoedd lle mae pobol am fyw a gweithio a byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg."

Mae lluniau'r digwyddiad i'w gweld yma