Fframwaith Datblygu Cymru: ergyd farwol i’r Gymraeg?

 

Mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryderon am yr oblygiadau i’r Gymraeg yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, os gwireddir y drafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.  Honnant y gall fod canlyniadau niweidiol iawn i sefyllfa’r iaith yn Sir Gaerfyrddin a’r Gogledd.

Mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn pennu’r cyfeiriad ar gyfer gwaith datblygu yng Nghymru o 2020 i 2040.  Yn eu ymateb i’r ymgynghoriad ar y Fframwaith ddrafft, mae Cymdeithas yr Iaith yn mynegi pryderon difrifol am effaith y ddogfen ar y Gymraeg dros yr ugain mlynedd nesaf. Dywedant eu bod yn pryderu’n benodol am:

  • gynnwys ardaloedd yn Sir Gâr ac Abertawe yn yr un rhanbarth a chreu un rhanbarth ar gyfer y Gogledd. 
  • diffyg polisi penodol ar gyfer tyfu nifer y cymunedau lle mai’r Gymraeg yw prif iaith y gymuned. 
  • hybu gor-ddatblygu tai a fydd yn niweidiol i gymunedau a’r Gymraeg, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin, y Gogledd-Orllewin a’r Gogledd-Ddwyrain o ganlyniad i ddynodi ardaloedd Wrecsam-Glannau Dyfrdwy a De Sir Gâr fel ardaloedd o dwf cenedlaethol;
  • annog patrymau allfudo a mewnfudo sy’n niweidiol i hyfywedd y Gymraeg drwy flaenoriaethu cysylltiadau trafnidiaeth a datblygiadau o’r Gorllewin i’r Dwyrain (megis yn ardal y Gogledd-Dwyrain) yn lle cysylltiadau De-Gogledd; 
  • natur annemocrataidd Cynlluniau Datblygu Strategol gydag aelodau anetholedig a fydd gyda mwy o rym na’r rhan helaeth o gynghorwyr lleol, 

Dywed Robat Idris, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:  

“Gellid honni fod y Fframwaith hwn wedi ei gam-enwi.  Mae llawer o’r argymhellion yn gwneud i’r holl beth swnio fel ymgais i fod yn rhan o rhyw Fframwaith Datblygu Western Britain.  Mae’n anghyfforddus o agos at syniadaeth y ‘Western Gateway’ sy’n ceisio clymu de-ddwyrain Cymru efo Bryste; y ‘Northern Powerhouse’ sy’n cysylltu Gogledd Cymru efo Gogledd Lloegr hyd at yr Humber yn Ngogledd Ddwyrain Lloegr; a’r ‘Midlands Engine’ sy’ tynnu Canolbarth Cymru fwyfwy at Ganolbarth Lloegr.  O’r herwydd ymylol ac arwynebol yw’r sylw i’r iaith Gymraeg. “Fframwaith Datblygu Cenedlaethol” meddai’r Llywodraeth - ond byddai Fframwaith Ecsploetio Cymru yn deitl mwy addas.”

“Does dim dwy waith amdani, mi fedrai’r cynigion yn y ddogfen hon fod yn ergyd farwol i’r Gymraeg, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin a’r Gogledd. Mae’r cynigion yn hybu datblygiadau mawr a fydd yn hybu mewnfudo a chyslltiadau trafnidiaeth sy’n mynd i hybu allfudo. Heb amheuaeth, mae’n mynd i danseilio polisiau iaith y Llywodraeth ei hun, gan gynnwys ei hamcan i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae’r strwythyr o dri rhanbarth, gyda rhai aelodau heb eu hethol, yn tra-arglwyddiaethu ar flaenoriaethau Cynghorau Sir, yn ffordd o sathru cymunedau lleol dan draed er mwyn hwyluso cynlluniau cyfalafol fydd o fudd i berchnogion cyllid allanol yn bennaf.  Bydd y Gymraeg yn un peth a sethrir.  

Ychwanegodd:

“Nid yw anghenion Gwynedd yr un peth â Wrecsam, ond eto mae meistri anetholedig ar lefel rhanbarthol yn mynd i orfodi pobl leol i dderbyn miloedd a miloedd o dai nad sydd angen ar gymunedau lleol. Yn yr un ffordd, mae anghenion Sir Gâr yn hollol wahanol i Abertawe, ond eto, drwy greu rhanbarthau ffug sy’n hollol anaddas i anghenion y Gymraeg a chymunedau lleol, mae’r Llywodraeth yn cynnig gorfodi nhw i dderbyn datblygiadau hollol anaddas. Ac, yn y De-Ddwyrain, nid oes hyd yn oed anogaeth yn y Fframwaith i ddatblygu’r Gymraeg fel prif iaith yr un gymuned newydd. Mae diffyg ystyriaeth wirioneddol o’r pergylon a’r cyfleoedd o gynllunio’n iawn i’r Gymraeg drwyddi draw.

“Mae’r cynigion hefyd yn hynod annemocrataidd drwy gorfodi cynghorau lleol cyfuno cynlluniau datblygu lleol a gorfodi awdurdodau i gyflwyno Cynlluniau Datblygu Strategol. O ganlyniad i’r newidiadau hyn, bydd hi bron yn amhosib i gymunedau lleol herio datblygiadau mawr ar eu stepen drws, ac mi fyddai'n anodd dadlau bod y gyfundrefn newydd yn parchu democratiaeth leol. Nid damwain yw’r faith fod yna bwyslais ar ddatblygu Maes Awyr Caerdydd, ac eto ‘does yna ddim yr un pwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus fyddai o les uniongyrchol i Gymru, er enghraifft y llinell reilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin.

Daw’r ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol arfaethedig i ben ar ddydd Gwener 15fed Tachwedd.