Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gadael hen garafan gyda'r geiriau "Hawl i Gartref" a symbol tafod y ddraig wedi eu paentio ar ei hochr tu allan i swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin heno (nos Iau, 24 Hydref).
Mae'r weithred yn brotest yn erbyn Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, ac sydd, yn ôl y mudiad, llawer yn rhy wan i fynd i'r afael â'r argyfwng tai sy'n wynebu cymunedau Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:
"Bwriad y weithred heno yw gofyn yn symbolaidd i'r llywodraeth a ydyn nhw'n disgwyl i lawer o'n pobl ifainc fyw mewn hen garafannau gan na allant fforddio tai yn eu cymunedau. Mae'n symbol hefyd o fethiant polisi tai Llywodraeth Cymru dros 25 mlynedd: anaddas, annigonol a thymor byr
"Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru'n wynebu argyfwng, mae teuluoedd a phobl ifanc yn cael eu gorfodi i adael oherwydd y bwlch cynyddol rhwng costau tai i'w rhentu neu brynu a chyflogau lleol. Yn lle cydnabod maint yr argyfwng a methiant y farchnad dai agored, mae ein Llywodraeth yn glynu at ymyriadau bychain fan hyn a fan draw.
"Sefydlu'r hawl i gartref trwy Ddeddf Eiddo drawsnewidiol, a sicrhau bod tai yn cael eu trin fel angen cymunedol yn lle asedau masnachol, yw'r unig ffordd i ddatrys yr argyfwng yma. Yn anffodus, nid yw cynlluniau'r Llywodraeth yn dod yn agos at hynny."