Galw am ‘Fenter Iaith Ddigidol’ er mwyn gwella presenoldeb y Gymraeg ar-lein

Mae mudiad iaith wedi lansio ymgyrch dros sefydlu Menter Iaith Ddigidol gan ddweud bod ‘datblygu’r iaith ar-lein yr un mor bwysig i’r Gymraeg ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg’.

Daw’r alwad wrth i aelodau’r Gymdeithas sylwi ar y bylchau enfawr yn y ddarpariaeth a’r cynnwys bresennol ar-lein, megis fideos You Tube. Mae’r mudiad yn galw am gorff newydd a fyddai’n annog creu deunydd ar lawr gwlad ynghyd â chynnal ymchwil i’r angen a gwella ymwybyddiaeth ymhlith unigolion, grwpiau a sefydliadau o beth sydd eisoes ar gael.

Wrth alw am fenter o’r fath, dywed Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:

“Fel mam i blant oedran 11, 9 a 6 fy hun ac wedi gweithio gyda phobol ifainc yn eu harddegau ac ugeiniau cynnar mae mor affwysol o amlwg bod diffygion difrifol o ran cynnwys Cymraeg ar YouTube ac ar-lein yn fwy cyffredinol. Gyda defnydd o blatfformau ar-lein yn uwch nag erioed o’r blaen, mae’r diffyg Cymraeg ar y platfformau hynny’n tanseilio defnydd yr iaith yn ein cymunedau. Dyna pam rydyn ni yn y Gymdeithas eisiau gweld corff sy’n gallu rhoi sylw penodol i’r maes, a rhywbeth sydd wedi ei wreiddio ac yn galluogi ein pobol ar lawr gwlad, yn ein cymunedau a chyda’r gallu i gynorthwyo a chomisiynu cynnwys lleol Cymraeg.”

Mi fydd aelodau’r Gymdeithas yn casglu barn pobl am natur a swyddogaethau’r Fenter Iaith Ddigidol newydd ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf. Ychwanegodd Heledd Gwyndaf:

“Gwelwn y gall y Gymraeg gael ei hennill neu ei cholli fan hyn. Mae datblygu’r Gymraeg ar-lein yr un mor bwysig i’r iaith ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg a datblygiad y wasg brintiedig yng Nghymru - mae’n hanfodol.

“Rydym yn colli’r frwydr ar hyn o bryd ac mae’r ychydig o Gymraeg sydd i’w chael ar-lein yn cael ei foddi, ac ar goll. Rhaid mynd ati i adnabod anghenion megis creu mwy o ddeunydd, hyrwyddo deunydd a chreu platfformau newydd sy’n cyfateb i’r rhai sydd ar gael mewn ieithoedd eraill ac hefyd datblygu syniadau gwreiddiol. Rhaid hefyd edrych ar heriau technolegol sydd yn wynebu’r Gymraeg ar-lein ac ymateb i’r heriau hynny.”