Galw am resymoli cadarnhaol yn Sir Ddinbych

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon e-bost at bob aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Dinbych o flaen eu cyfarfod Ddydd Mawrth pan fyddant yn ystyried y bosibiliad o gau hyd 11 o ysgolion pentre - y mwyafrif ohonynt yn rhai Cymraeg eu cyfrwng.

Yn yr e-bost, dywed y Gymdeithas ei bod yn cydnabod yr angen am resymoli yn wyneb y cwymp mewn niferoedd disgyblion. On dywedant fod "rhesymoli cadarnhaol" yn bosibl yn ogystal â rhesymoli negyddol."Does dim raid ymateb i'r broblem trwy'r dull negyddol a simplistaidd o gau ysgolion. Fel y dywed canllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ysgolion bychain, dylai hynny bob amser fod yn ddewis olaf. Gofynnwn i chwi benderfynu Ddydd Mawrth roi cyfnod i'ch swyddogion archwilio posibiliadau rhesymoli cadarnhaol trwy wneud defnydd mwy cost-effeithlon o'r adeiladau ysgol hyn. Gofynnwn i chi fanteisio ar y don fawr o ddiddordeb sydd rwan yn y cymunedau lleol i drafod hyn. Hoffem ni fel Cymdeithas drafod gyda chwi y dewis o gyfuno cyllidebau addysg a datblgyu cymunedol fel bod gwasanaethau addysg gymunedol, ail-hyfforddi sgiliau ac adfywiad cymunedol yn ganolog i'r ysgolion pentre. Gwyddom o brofiad mai gwell gweithio gyda chymunedau lleol na sathru ar eu dymuniadau. Fe'ch anogwn i ddal ar y cyfle i gymryd y cam cadarnhaol hwn."Yr un pryd y mae'r Gymdeithas yn cysylltu gyda'r cymunedau tan fygythiad i rannu eu profiad o ymgyrchoedd cyffelyb yn y De ac i weld a oes potensial i sefydlu Fforwm yn Sir Ddinbych (fel ag a sefydlwyd yn Sir Gâr) i gynrychioli'r holl gymunedau sydd tan fygythiad fel eu bod yn gwneud safiad unol.Gwefan Fforwm Ysgolion Cynradd Sir GarDogfen Llwyddiant Ysgolion Pentre - Model ar gyfer ein Trefn Addysg yng NghymruStori llawn oddi ar wefan y Daily Post