Galw ar Jane Davidson i drafod ysgolion pentref

Jane DavidsonMae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu fod Gweinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, yn cyfarfod â dirprwyaeth gan y Gymdeithas, Rhieni a Llywodraethwyr sy'n pryderi am eu hysgolion pentrefol yn Sir Gaerfyrddin i drafod methiant canllawiau y Cynulliad Cenedlaethol i amddiffyn yr ysgolion.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu gwybod pam nad yw pobl Sir Gâr yn cael yr un hawl ddemocrataidd i drafod y strategaeth ar gyfer ysgolion lleol ag sy'n cael ei roi i bobl Caerdydd.Mae Cymdeithas yr Iaith yn tynnu sylw Jane Davidson at y ffaith fod Caerdydd hefyd wedi datgan y mis hwn gynlluniau i ganoli addysg a chau ysgolion; ond, yn wahanol i Sir Gâr, eu bod yn bwriadu cyflwyno'r holl strategaeth i ymgynghoraeth gyhoeddus hyd fis Gorffennaf, cyn mynd ymlaen a'r cynlluniau ar gyfer ysgolion unigol. Dywed Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd:"Yn wahanol i Gaerdydd, Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn benderfynnol o fwrw ymlaen gyda'i rhuthr gwyllt i gau ysgolion heb unrhyw ymgynghori ar y brif strategaeth. Yr unig ymgynghori fydd ar y cam olaf pan fyddant ar fin cau ysgol unigol a bod rheidrwydd cyfreithiol arnynt i drafod ymater. Erbyn hynny mae hi fel arfer yn rhy hwyr.""Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu fod Jane Davidosn yn cyfarfod Rhieni a Llywodraethwyr pryderus Sir Gar i esbonio pam ei bod yn fodlon caniatau di-ystyrru democratiaeth yn y modd hwn. Mae ei hesgusodion yn ei gohebiaeth gyda ni dros osgoi cyfarfod yn hollol ffug. Mae'n honni fod Cynllun MEP Sir Gar wedi'i seilio ar hen ddogfen o 2001 a gyflwynwyd ar gyfer yr ymgynghori lleiaf posib. Mynnwn ni fod y Cynllun - a lawnsiwyd mewn modd sinigaidd yn 2004 yn union wedi'r etholiadau - yn naid quantum o'r hen ddogfen yn 2001 a bod y strategaeth o gau cynnifer o ysgolion erioed wedi ei drafod yn drwyadl drwy'r sir.""Rydym hefyd yn gwrthod ei honiad anhygoel na all gyfarfod a phobl Sir Gar gan y bydd rhaid iddi farnu yn y dyfodol ar ddyfodol yr ysgolion. Pa fath o farnwr sy'n dod i benderfyniad heb wrando ar y dystiolaeth a gwrando ar y bobl yn yr achos. Os bydd yn gwrthod ein cais olaf am gyfarfod, bydd yn ergyd i ddegau o gymunedau yn Sir Gar."Call for schools talks before cuts - Western Mail, 11 Ebrill 2006