Galwad i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y Seithfed Senedd

2026-05-01

Cartref > Newyddion > Galwad i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y Seithfed Senedd

Ar drothwy etholiad y Senedd ar 7 Mai, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ymgeiswyr i ymrwymo i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg os byddant yn cael eu hethol. 

Daw’r alwad ar ddarpar Aelodau deddfwrfa genedlaethol Cymru wedi iddi ddod i’r amlwg bod defnydd o’r Gymraeg ar lawr y Senedd ac mewn Pwyllgorau wedi lleihau rhwng blwyddyn lawn gyntaf y Chweched Senedd (2021/22) a’r flwyddyn lawn olaf y mae ffigurau ar gael (2024/25).

Drwy gais rhyddid gwybodaeth, mae’r Gymdeithas wedi casglu ffigyrau manwl am ddefnydd Aelodau o’r Gymraeg yn eu gwaith seneddol yn ystod 2024/25. Yn ôl y ffigyrau:

  • Roedd 55% o Aelodau’r Senedd yn defnyddio dim Cymraeg o gwbl wrth gyfrannu 

  • Roedd cyfraniadau Cymraeg arweinwyr pleidiau gwleidyddol yn y Gymraeg yn amrywio o 32% i 0%

  • Roedd ffigyrau defnydd llefarwyr y pleidiau ar y Gymraeg ar lawr y Senedd yn amrywio o 51% i 11%, a chanran cyfraniadau Cymraeg Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn 30%

  • Allan o 60 Aelod o’r Senedd, dim ond tri a gyflwynodd fwy na hanner eu cwestiynau ysgrifenedig yn Gymraeg.

Mae’r Gymdeithas yn y broses o ohebu gydag ymgeiswyr, gan wahodd darpar Aelodau’r Senedd i wneud ymrwymiadau ynghylch eu defnydd personol o’r Gymraeg os cânt eu hethol.

Yn ogystal, mae gan y mudiad bryderon nad yw Comisiwn y Senedd ar lefel sefydliadol wedi cynllunio yn ystyrlon o gwbl i wella sefyllfa’r Gymraeg yn y corff wrth i’r Senedd ehangu, er gwaetha galwadau cyson gan y Gymdeithas i flaenoriaethu’r Gymraeg fel rhan o’r gwaith paratoi. Er enghraifft, gwrthododd y Bwrdd Taliadau Seneddol alwadau i gydnabod sgiliau yn y Gymraeg fel rhai o’r nodweddion angenrheidiol yn swyddi staff cymorth Aelodau’r Senedd a’r pleidiau gwleidyddol yn y Senedd.

Gwrthodwyd yr alwad i’w gwneud yn ofynnol i Aelodau ryddhau staff o’u gwaith yn ystod amser gwaith i gael gwersi dwys i wella’u sgiliau ieithyddol. Collwyd cyfle o ganlyniad i warantu creu gweithleoedd Cymraeg newydd wrth i 36 neu fwy o swyddfeydd newydd gael eu creu, wedi’u hariannu gan arian cyhoeddus.

Mae’r Gymdeithas yn deall hefyd fod cais gan Gomisiynydd y Gymraeg i annerch yr Aelodau newydd fel rhan o’u rhaglen gynefino wedi’i wrthod.

Meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 

“Yr etholiad yw cyfweliad swydd pob Aelod o’r Senedd ac mae’r addewidion a wneir yn ffurfio’r cytundeb gyda’u cyflogwyr, sef pobl Cymru. Bydd y Senedd o 96 o aelodau yn edrych ac yn teimlo’n wahanol i seneddau’r gorffennol, ond yn anffodus, prin yw’r arwyddion y bydd amlygrwydd y Gymraeg yn uwch o dan y drefn newydd. Yn wir, mae perygl gwirioneddol y gallai waethygu eto.

“Rydyn ni’n galw felly ar ddarpar Aelodau’r Senedd i wneud ymrwymiadau penodol i gynnal eu bywyd cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg, nid yn unig yn sesiynau’r Senedd a phwyllgorau ond hefyd wrth ymdrin â’u hetholwyr."

Cyfeiriodd Owain Meirion hefyd at yr anghysondeb sydd yn y gofynion cyfreithiol ar y Senedd o ran y Gymraeg a bod y diffygion yn y paratoadau yn deillio o hynny:

“Mae hi’n siomedig hefyd bod awdurdodau’r Senedd – a’r Aelodau eu hunain – wedi eu neilltuo o’r un gofynion cyfreithiol o ran y Gymraeg ag y mae Aelodau’r Senedd wedi eu cyflwyno ar gyfer gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru.

“Rydyn ni’n talu’r pris am y cam gwag hwn gan fod system y Senedd ymhell ar ei hôl hi o ran y Gymraeg. Rhaid i’r Llywodraeth a’r Senedd nesaf weithredu yn nyddiau cynnar y Seithfed Senedd i unioni hynny.”  

Pob newyddion