Gardd Fotaneg - croesawu newid agwedd ond angen mynd ymhellach

Yn dilyn cyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddoe, mae'r mudiad iaith wedi croesawu ymrwymiad yr Ardd na fyddant yn codi arwyddion uniaith Saesneg eto, ac y byddant yn lansio gwefan gwbl ddwyieithog. Ond yn ôl yr ymgyrchwyr, mae angen i'r Ardd fynd ymhellach wrth recriwtio a hyfforddi gweithwyr.

Dywedodd David Williams, o Landeilo, oedd yn cynrychioli'r Gymdeithas yn y cyfarfod:

"Mae'r cyfarfod adeiladol yma'n dangos bod newid agwedd wedi bod ar ran yr Ardd. Yn dilyn pwysau gan y Gymdeithas, llwyddon ni i gynnal y cyfarfod yn Gymraeg - rhywbeth nad oedd yr Ardd yn barod i'w wneud rai misoedd yn ôl.

"Maen nhw wedi addo y byddan nhw'n cadw at eu cynllun iaith nawr – felly bydd sefyllfa anffodus gydag arwyddion uniaith Saesneg ddim yn codi eto. Fel sefydliad cenedlaethol, ac fel cyflogwr mewn ardal ble mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg, mae angen i'r Ardd adlewyrchu hynny. Mae'n hollbwysig bod yr Ardd yn parchu ac yn cefnogi'r Gymraeg. Yn ogystal â'r hyn maen nhw wedi addo, dylai fod ganddynt gynllun i recriwtio rhagor o weithwyr sy'n medru'r Gymraeg."

Ychwanegodd Manon Elin, Cadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith: "Rydym yn croesawu'r newid agwedd yma gan yr Ardd. Er bod oedi mawr wedi bod wrth sicrhau gwybodaeth Gymraeg ar eu gwefan, ac er i'r Ardd gael arian ychwanegol yn 2012 er mwyn lansio gwefan ddwyieithog, maen nhw wedi addo y byddant yn lansio gwefan newydd gwbl ddwyieithog yn y flwyddyn newydd, sydd yn rhywbeth i'w groesawu. Gyda'r datblygiadau hyn rydyn ni'n gobeithio bydd yr Ardd i fod yn fwy uchelgeisiol ac yn symud tuag at weithio'n fewnol yn Gymraeg hefyd.

"Mae Cyngor Sir Gâr a'r Llywodraeth wedi nodi eu pryderon nhw am ddarpariaeth y Gymraeg hefyd ac yn gobeithio y byddan nhw hefyd yn cadw llygad ar ddatblygiadau yn yr Ardd."