Mewn ymateb i gyhoeddiad gan HSBC eu bod yn mynd i leihau’r amser i drefnu i gwsmer gael galwad yn ôl yn y Gymraeg o dri diwrnod gwaith i un, mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio byddai hyn yn dal yn golygu bod darpariaeth Gymraeg y banc “ymhell o fod yn gyfartal” â’r ddarpariaeth Saesneg ac wedi ategu mai deddfwriaeth newydd yw’r unig ateb.
Mewn datganiad, dywedodd HSBC:
“We are reducing the maximum length of time for a callback from three working days to the next working day. We now have the confidence to reduce this timeframe through our experiences from this first quarter, and the diligence of our Welsh-speaking branch colleagues. We will write to all customers advising them of this change in Welsh and in English.”
Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:
“Dydy’r cyhoeddiad yma ddim yn golygu llawer o ddim byd, gan fod rhwystrau mewn lle o hyd, sy’n golygu bod gwasanaethau Cymraeg HSBC dal ymhell o fod yn gyfartal i’w gwasanaethau Saesneg. Rydyn ni wir yn gobeithio nad yw HSBC yn disgwyl i gwsmeriaid fod yn ddiolchgar am hyn. A dim ond rhan o’r broblem yw’r gwasanaeth ffôn, does dim gwasanaeth Cymraeg o gwbl ar-lein nac ar ap y banc, chwaith.
“Y broblem sylfaenol - fel gafodd ei amlygu yn achos llys diweddar y cwmni parcio One Parking Solution yn erbyn Toni Schiavone - yw nad oes dim byd yn y ddeddfwriaeth bresennol sy’n gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg yn y sector breifat, waeth beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yn gyhoeddus am statws swyddogol, cyfartal i’r iaith. Dyna pam bod angen Deddf Iaith newydd.”