Gweddnewid Addysg a Datblygu Cymunedol

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ddigon hy heddiw (Mercher 19eg) i gyhoeddi pamffled polisi newydd yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad, a'r Cynghorau Sir newydd y mis nesaf, nid yn unig i gydnabod llwyddiant Ysgolion Pentrefol ond hefyd i fabwysiadu fformiwla eu llwyddiant fel sylfaen strategaeth ar gyfer yr sardaloedd trefol hefyd o ran sicrhau llwyddiant addysgol ac adfywiad cymunedol.

Yn y pamffled Llwyddiant Ysgolion Pentre, mae'r Gymdeithas yn galw am gyfuno Addysg a Datblygu Cymunedol mewn swyddfyedd Llywodraeth Leol ac am sefydlu Unedau Datblygu Cymunedol ac Addysg (UDCA) tu fewn i bob cymuned - yn yr ardaloedd trefol yn ogystal ag mewn pentrefi gwledig - wedi'u lleoli yn yr ysgol gynradd leol.Gwaith yr UDCA fyddai cyfuno :

  • Addysg Gynradd statudol
  • Clybiau Gwaith Cartre ar gyfer disgyblion yn eu harddegau
  • Addysg Oedolion mewn Clybiau Dysgu Cymunedol
  • Adfywio economaidd lleol trwy ddysgu medrau newydd i’w rhoi ar waith yn y gymuned.
  • Darpariaeth gymdeithasol a diwylliannol fel canolfannau cymunedol.Yn y lleoliadau canolog (pentrefi allweddol a chanol trefi) gallai’r UDCA gynnal cyrsiau a gwasanaethau mwy arbenigol fel llyfrgelloedd, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.Mae llwyddiant addysgol a chymdeithasol Ysgolion Pentre i’w briodoli i raddau helaeth i’w cyswllt cryf a’r gymuned. Byddai’r model hwn yn adeiladu ar Arfer Gorau ac estyn y manteision i’r ardaloedd trefol.Ailystyried Canoli a Chau YsgolionByddai newid cyfeiriad dramatig o’r math hwn yn golygu nid yn unig atal y rhaglen o gau Ysgolion Pentre a’r rhuthr i greu Ysgolion Ardal gwledig, ond yn golygu hefyd ailystyried y duedd i greu ysgolion mawr un-safle canolog yn yr ardaloedd trefol. Mae pamffledyn y Gymdeithas yn dadlau dros y model mwy ystwyth a soffistigedig o Ysgol aml-safle gydag UDCA ym mhob cymdogaeth o’n trefi er mwyn hybu cynhwysiant cymdeithasol a chyfranogiad y gymuned. Golygai hefyd newid strategol mewn dysgu Cymraeg i Oedolion. Yn lle bod dysgwyr yn teithio fel unigolion i ganolfannau ar gyfer cyrsiau ffurfiol, byddai’r pwyslais ar ddysgu’r iaith i bobl ddi-Gymraeg fel grwp yn eu UDCA lleol a chan gyflwyno’r Gymraeg fel allwedd i ddeall y gymuned leol.Cwestiwn ar lawr Siambr y CyngorAr ddiwrnod lansio’r strategaeth newydd, bydd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, Ffred Ffransis, yn gofyn cwestiwn yn ffurfiol (Pwynt 5 ar yr agenda) yng nhyfarfod llawn Cyngor Sir Caerfyrddin fory (19/5) am 10am. Disgwylir ateb ffurfiol ar y pryd gan y Cyng Mary Thomas (Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros addysg a dysgu gydol-oes). Gofynnir i’r Cyng Thomas gydnabod llwyddiant Ysgolion Pentre a mabwysiadu’r strategaeth o greu UDCA’u. Ytr ydym wedi derbyn amlinelliad ymlaen llaw o’i hateb. Ymateb Ffred Ffransis oedd ein bod yn"siomedig fod y Cyngor yn taflu i fyny’r un hen dadleuon dros yrru plant i Ysgolion Ardal canolog cyfleus gan yr Awdurdodau gan ymwrthod ag unrhyw syniadau cyffrous at y dyfodol. Buon ni’n gobeithio am ymateb corfforaethol gan y Cyngor gyda strategaeth holistaidd gan wahanol adrannau i ddatblygu Ysgolion Pentre fel peiriannau i adfywio’r cymunedau cyfan."EtholiadauYchwanegodd Mr Ffransis"Bydd cyfle gan bleidleiswyr holi ymgeiswyr ar y pwnc hwn yn ystod yr ymgyrch etholiadol dros yr wythnosau nesaf. Byddwn yn galw’r mis nesaf ar y Cynghorau Sir newydd – yn enwedig Cyngor Sir Caerfyrddin – am newid atrategaeth sylfaenol. Byddwn hefyd yn gofyn am gyfarfod gyda Gweinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, i drafod y strategaeth newydd hon."Gellir dadlwytho copi o'r ddogfen (pdf) ymaStori oddi ar wefan y Western Mail