Gweithiwr yn cael ei rwystro rhag siarad Cymraeg yn Morrisons

cymraeg-morrisons.jpgMae wedi dod i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gweithiwr ym Morrisons Caergybi wedi cael ei atal rhag siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr gan Reolwr y siop.Cafodd Mr David Evans, a oedd yn gweithio yn y siop, ei rybuddio gan Reolwr Morrisons sawl gwaith na ddylai siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr. Ddoe, fe benderfynodd Mr Evans na allai ddioddef y sefyllfa ymhellach a gadawodd ei swydd.Meddai Osian Jones, Swyddog Maes y Gogledd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n annheg ac anghyfiawn fod Mr David Evans wedi ei rwystro rhag siarad y Gymraeg gyda'i gydweithwyr ym Morrisons. Mae cwmni Morrisons yn cael eu brolio fel un o'r cwmnïau sy'n cynyddu gwasanaethau'n Gymraeg drwy ewyllys da, ond mewn gwirionedd nid oes hawliau o fath gan weithwyr Morrisons i siarad y Gymraeg yn y gweithle. Heb hawliau ieithyddol, nid oes modd cyfreithiol i Mr Evans ddadlau fod ganddo hawl i siarad y Gymraeg yn y gweithle."

Mae'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) yr iaith Gymraeg sy'n trosglwyddo pwerau dros yr iaith Gymraeg i'r Cynulliad yn cynnwys 'y rhyddid i siarad y Gymraeg' yn y gweithle.Mae Osian Jones yn mynd ymlaen i ddweud:"Mae angen cryfhau'r Gorchymyn i gynnig 'hawl i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg' oherwydd nid yw 'rhyddid' i weithio drwy'r Gymraeg yn ddigon cryf. Mae'r achos hwn yn atgyfnerthu'r angen am Orchymyn Iaith eang sy'n cynnwys bob sector er mwyn i'r Cynulliad allu creu mesur sy'n creu cyd-destun mwy cydradd i'r Gymraeg ac fel nad oes unrhyw beth yn rhwystro hawl pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg."Ar Fai 16eg am 2pm, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Rali yn galw i'r holl bwerau dros y Gymraeg i gael eu trosglwyddo o San Steffan i'r Cynulliad. Y siaradwyr fydd Adam Price AS, Angharad Mair (Wedi 7), Hywel Teifi Edwards, Catrin Dafydd (awdures).Stori yn y Daily Post