Neithiwr (nos Sul 24/10/04), yn ninas Bangor, targedodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddegau o gwmniau preifat – (banciau, archfarchnadoedd, arwerthwyr tai, siopau cadwyn ayb) – gan orchuddio eu ffenestri a sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae’r Gymraeg?’
Ymhlith y cwmniau a gafodd eu targedu yr oedd Kwik Save, Halifax, JJB Sports, Topshop, Burtons, North Wales Property, Phone S4U, Debenhams a llawer mwy. Mae'r neges "Ble mae'r Gymraeg" i'w gweld yn awr ym mhob rhan o'r ddinas.Gwnaed hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r Ddeddf Iaith bresennol yn cyffwrdd â’r sector breifat ac felly yn rhydd i gynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Mae Senedd Cymdeithas yr Iaith yn cymryd cyfrifoldeb am y weithred. Meddai Rhys Llwyd, Cadeirydd ymgyrch Deddf Iaith Newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:“Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith i gychwyn ar gyfnod o ymgyrchu gweithredol er mwyn ail-godi yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Dro ar ôl tro, fe welir fod cwmniau a sefydliadau yn parhau i wrthod cynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Ni fydd hyn yn newid hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd.”Mae’r weithred hon yn ran o ymgyrch sydd gan Gymdeithas yr Iaith rhwng nawr a'r Nadolig yn cyson dargedu llu o gwmniau, mewn trefi trwy Gymru gyfan, er mwyn pwysleisio gwendidau sylfaenol Deddf Iaith 1993. Eisioes mae cwmniau sy’n anwybyddu’r Gymraeg yn Fflint, Caernarfon, Caerdydd ac Aberystwyth wedi’u targedu. Ychwanegodd Rhys Llwyd:“Bellach, mae dros ddegawd ers pasio’r Ddeddf Iaith bresennol. O ganlyniad, mae nawr yn adeg priodol i ddechrau ystyried yr angen i ddiwygio a chryfhau’r ddedfwriaeth. Yn wir, o ystyried y modd y mae preifateiddo, ynghyd â’r twf yn nylanwad technoleg, yn trawsnewid y modd y caiff gwasanaethau eu cynnig, mae angen gwneud hyn ar frys. Os na fyddwn yn wynbeu’r her, bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd."Ychwanegodd Hedd Gwynfor, Is-gadeirydd Cyfathrebu'r Gymdeithas:"Trwy ein gweithred heno, yn dilyn gweithredu tebyg yn Y Fflint, Caernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd dros yr wythnosau diwethaf, cyhoeddwn fod cyfnod yr hen Ddeddf Iaith wedi dod i ben. Mae Cymru wedi newid yn llwyr ers pasio'r hen Ddeddf ym 1993, ac y mae Deddf Iaith Newydd yn ôl mewn difri ar yr agenda gwleidyddol. Gallwn gyhoeddi bod pedwar mis o ymgynghori tu fewn a thu allan i'r Gymdeithas ar gynnwys Deddf Iaith newydd wedi dechrau, a byddwn yn croesawu ymateb o bob cwr.""Yn benllanw i'r ymgyrch newydd hon, byddwn yn cynnal Fforwm Cenedlaethol dros Ddeddf Iaith newydd yn Aberystwyth ar Mawrth 12fed i gyflwyno'n gweledigaeth o Ddeddf Iaith newydd. Ein nod yw darbwyllo Bwrdd yr Iaith i argymell fod y Cynulliad yn mynnu deddf newydd o'r fath gan San Steffan. Y mae Hywel Williams A.S. wedi cytuno i annerch y fforwm, ac mae swyddogion o Fwrdd yr Iaith wedi cael eu gwahodd. Wrth fod y bore'n gwawrio ym Mangor a'r galwad i'w weld ym mhob man am ddefnydd llawn o'r Gymraeg, felly hefyd y mae cyfnod newydd wedi gwawrio yn y frwydr dros yr iaith"Digwyddiadau Pellach: Mi fydd gweithredoedd tebyg yn parhau i ddigwydd ym mhob rhan o Gymru o nawr tan y Noadolig.