O fewn dwy awr i'w rhyddhau o garchar yn Swydd Gaerloyw bore fory (Mercher 11eg Gorff) bydd Gwenno Teifi'n ol yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith rymus wrth ymweld a'r Senedd ym Mae Caerdydd, gyda chynllun wedyn i annerch protest fawr gan y Gymdeithas yn y gogledd.
Caiff y myfyriwr 20 oed, Gwenno Teifi, ei rhyddhau yn gynnar bore fory o garchar Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw wedi treulio 3 diwrnod (gyda'r lwfans traean arferol i ffwrdd) o'r ddedfryd o 5 niwrnod o garchar a osodwyd arni Ddydd Llun gan Ynadon Caerfyrddin am iddi wrthod talu dirwy a chostau o £120 yn dilyn ei gweithred o baetio'r geiriau 'Deddf Iaith' ar ffenest y siop fawr esgidiau Brantano yn Aberystwyth yn Hydref 2006.Yn dilyn ei rhyddhau a brecwast cyflym, bydd yn teithio at y Senedd ym Mae Caerdydd lle caiff ei chyfarch gan gefnogwyr am 11 y bore. Bydd hefyd yn cyflwyno llythyr gan Gymdeithas yr Iaith i'w Haelod Cynulliad lleol Rhodri Glyn Tomos (sydd hefyd yn gyn-Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad), yn galw ar Weinidog Diwylliant newydd y Cynulliad yn y Glymblaid i sicrhau Deddf Iaith ddigon nerthol i sicrhau fod cwmniau mawr yn gwneud defnydd llawn o'r Gymraeg. Bydd y llythyr yn rhybuddio o berygl colli cyfle hanesyddol trwy Dddeddf Iaith wan na bydd yn taclo'r problemau.Erbyn hanner dydd, bydd Gwenno ar ei ffordd adref i Ddyffryn Teifi ac ymlaen ihelpu paratoadau ar gyfer protest fawr y bydd hi'n ei hannerch wrth Tesco Porthmadog am 2pm Sadwrn. Y brotest hon fydd y cam nesaf a gynhelir yn ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith gyflawn.