Gwobr fawr i ŵyl Hanner Cant!

Cipiodd trefnwyr gŵyl Hanner Cant wobr arbennig dros y penwythnos yn dilyn llwyddiant y gig fawr i ddathlu hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y llynedd.

Casglodd Iwan Standley y wobr am y digwyddiad byw gorau yn noson wobrau cylchgrawn Y Selar ar ran y tîm fu’n trefnu’r gig, gan ddiolch i’r holl fandiau a gefnogodd yr ŵyl, a phawb ddaeth i fwynhau’r penwythnos ym Mhontrhydfendigaid.

Yn ogystal, cyflwynodd trefnydd y gogledd Osian Jones wobr, a noddwyd gan y mudiad iaith, am y record fer orau i’r band Y Bandana. Roedd yn un o dair gwobr ar y noson i’r grŵp a ddechreuodd eu gyrfa trwy gipio teitl Brwydr y Bandiau y Gymdeithas yn 2008.    

Wrth longyfarch gwirfoddolwyr y Gymdeithas am eu gwaith caled trefnu ar gyfer yr ŵyl, meddai Alun Reynolds swyddog adloniant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Llongyfarchiadau mawr i bawb oedd wedi gweithio mor galed ar yr ŵyl a’r wobr enillon nhw dros y sul. Mae gan y Gymdeithas draddodiad hir ac anrhydeddus o weithredu dros yr iaith mewn ffyrdd ymarferol.  Ac mae trefnwyr Hanner Cant wedi parhau ac ychwanegu at y campweithiau hynny. Heb amheuaeth, y gig arbennig hon oedd y digwyddiad cerddorol gorau ers dros ddegawd. Hoffwn ddiolch i bawb oedd yn ymwneud a’r digwyddiad o waelod fy nghalon ar ran holl aelodau’r Gymdeithas. Diolch hefyd i bawb a bleidleisiodd dros yr ŵyl.”

LLUN: Y Selar