Gwys ar gyfer Cynghorwyr a Swyddogion Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAm 10am bore heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith wys yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin i bedwar o brif gynghorwyr a swyddogion y Cyngor Sir. Cafodd Mark James (Prif Weithredwr), Vernon Morgan (Cyfarwyddwr Addysg), Meryl Gravell (Arweinydd y Cyngor) a Martin Morris (Dirprwy Arweinydd) eu gwysio i ymddangos gerbron Llys Iawnderau Cymunedol a gynhelir am 12.00 Llun y 28ain o Fai yn uned y Cyngor Sir ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin.

Mae’r wys yn cyhuddo’r pedwar o DWYLL yn y broses ymgynghorol am ddyfodol ysgolion pentrefol Cymraeg y sir.Cafodd yr wys ei chyflwyno yn Neuadd y Sir gan y Rhingyll Swyn Dafydd, sydd bron a bod yn dair oed ac yn berchen ar wisg plismones, o Gylch Meithrin Bancffosfelen. Mae’n gobeithio mynd yn yr hydref 2008 i Ysgol Bancffosfelen sydd hefyd yn cael ei bygwth gan y Cyngor Sir.Tu allan i Neuadd y Sir, cychwynnodd aelodau’r Gymdeithas rannu posteri “Yn Eisiau” i geisio sicrhau fod y diffinyddion yn ymddangos yn y prawf. Bydd y prawf ei hunan yn clywed gan nifer o dystion o ysgolion yn y sir sy’n credu mai twyll ar ran y Cyngor Sir oedd prosesau ymgynghori am ddyfodol ysgolion fel Mynyddcerrig. Disgwylir y dyfarniad, a dedfryd bosibl, yn eiddgar.gwys-caerfyrddin.jpggwys-caerfyrddin1.jpg