Heclo wrth i Gabinet Cyngor Caerdydd fwrw ymlaen gyda ffrwd Saesneg ym Mhlasdŵr

Mae ymgyrchwyr wedi torri ar draws cyfarfod cabinet Cyngor Caerdydd wrth iddynt benderfynu bwrw ymlaen gyda agor ffrwd Saesneg ar safle Plasdŵr heddiw.

Ym mis Medi 2018, dywedodd Arweinydd y Cyngor Huw Thomas "i fod yn glir - bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr." Fodd bynnag, penderfynodd cabinet Cyngor Caerdydd ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd gyda hanner y disgyblion mewn ffrwd Saesneg. Derbyniodd y Cyngor ddeiseb gydag 876 llofnod arni hi'n galw am ysgol benodedig Gymraeg, gyda dim ond 15 o'r 180 o ymatebion i'w hymgynghoriad yn ffafrio agor ffrwd Saesneg ar y safle.

Meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith:

"Rydyn ni'n mynd i barhau i wrthwynebu'r model hwn sy'n mynd i amddifadu hanner y disgyblion o'r Gymraeg. Dylai Arweinydd y Cyngor gadw at ei air i agor ysgol cyfrwng Cymraeg, nid ysgol ddwyieithog. Wedi'r cwbl, dyna sydd ei angen os yw'r Cyngor o ddifrif am sicrhau ein bod ni'n cyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n rhaid i Gaerdydd sicrhau cynnydd dramatig a chyflym yn nifer y disgyblion sy'n mynd i ysgol Gymraeg er mwyn sicrhau y caiff y targed ei gyrraedd.

"Byddai ailymweld ag arbrawf methiedig addysg ddwyieithog sydd wedi ei brofi'n ffordd wael o drwytho disgyblion yn y Gymraeg yn gam annigonol i ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y ddinas."