Hysbyseb swydd Cyngor Sir Gaerfyrddin

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon llythyr at swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi i hysbyseb swydd am Gyfarwyddwr Gwasanaethau Amgylcheddol fethu cyfeirio at y Gymraeg.

Testun y llythyr yn llawn:

Tynnwyd ein sylw at hysbyseb swydd diweddar gyda'r Cyngor. Yn debyg i hysbyseb swydd am gyfarwyddwr iechyd a gofal fis Gorffennaf dydy'r hysbyseb ei hun ddim yn cyfeirio o gwbl at y Gymraeg. Dydy'r disgrifiad swydd ddim yn gofyn am lefel uwch o Gymraeg na'r gallu i gyfarch, cynnal sgyrsiau syml ac ynganu enwau lleoedd yn gywir chwaith.

Dydy'r gallu hyn o Gymraeg ddim yn mynd i sicrhau fod pwy bynnag sydd yn cael ei benodi yn gallu gweithio drwy'r Gymraeg - sydd yn awgrymu nad yw'r cyngor ddifrif am fod yn gorff sydd yn gweithredu drwy'r Gymraeg. Rydyn ni wedi dweud nad ydyn ni'n disgwyl i hynny ddigwydd dros nos, ond mae'n rhaid cymryd camau pendant er mwyn gallu gwireddu hynny. Credwn felly eich bod chi yn gweithredu'n groes i argymhellion clir gweithgor y sir am sefyllfa'r iaith, a'r adroddiad a gafodd ei fabwysiadu'n ddiwrthwynebiad gan y cyngor llawn yn ddiweddar.

O ystyried fod ceisiadau yn cael eu gwahodd yn benodol gan ferched a lleiafrifoedd ethnig, a bod y swydd ddisgrifiad yn cydnabod Sir Gaerfyrddin fel y sir sydd á'r mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, byddem yn disgwyl bod cydnabyddiaeth glir i'r Gymraeg a disgwyliadau uwch o ran gallu siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Bydd aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin yn cwrdd nos Lun yma (15fed o Fedi) am 7pm yn nhafarn y Glyndŵr, Caerfyrddin er mwyn trefnu cyfarfod agored 'Tynged yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin ym mis Ionawr

– ddwy flynedd ers rali fawr y Cyfrifiad a naw mis ers i'r cyngor dderbyn argymhellion Gweithgor y Gymraeg.

Mwy o fanylion – bethan@cymdeithas.org