**Dyddiad cau wedi'i ymestyn** Ymunwch â thîm Cymdeithas yr Iaith!

Mae gan y Gymdeithas ddau gyfle cyffrous i unigolion angerddol a gweithgar ymuno â’n tîm staff fach ond effeithiol. 

Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol: Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol i arwain ar ein gwaith cyfathrebu, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol ar draws ein meysydd ymgyrchu. Mae hon yn swydd hynod bwysig sy'n ganolog i lwyddiant y Gymdeithas fel mudiad ymgyrchu effeithiol sy'n gosod agenda flaengar ar gyfer y Gymraeg. Byddwch yn gyfrifol am gydlynu gwaith polisi ac ymgyrchu yn Senedd Cymru ynghyd â chyfathrebu neges y Gymdeithas yn genedlaethol ac yn lleol i aelodau’r Gymdeithas, i'r cyhoedd, i'r wasg ac i'r awdurdodau.

Cyflog: £27,000 - £30,000 y flwyddyn. Manylion llawn a sut i ymgeisio.

Swyddog Ymgyrchoedd: Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Ymgyrchoedd gweithgar a brwdfrydig i weithio gyda’n grwpiau ymgyrchu, rhanbarthau, celloedd ac aelodau ar draws y wlad i gefnogi ein hymgyrchoedd ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Dyma swydd newydd sy’n gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a chyfrannu at lwyddiant ymgyrchoedd y Gymdeithas ar draws sawl maes o bwys mewn cyfnod tyngedfennol i’r iaith a’n cymunedau. 

Cyflog: £21,000 - £24,000 y flwyddyn. Manylion llawn a sut i ymgeisio.

Dyddiad cau'r ddwy swydd: hanner dydd, Medi 24 2021

Cymdeithas o bobl sy’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid ydyn ni. Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ymgeisydd ar sail anabledd, cenedligrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, dosbarth cymdeithasol, ethnigrwydd, hil, hunaniaeth rhywedd, rhywedd, statws rhianta na chyfrifoldebau gofal. 

Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o bob rhan o’n cymunedau, yn enwedig pobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, sy’n aml yn cael eu tangynrychioli mewn swyddi o’r math hwn.