Hywel Williams AS yn annerch dechrau ‘Taith Deddf Eiddo’ Cymdeithas yr Iaith o Gaernarfon i Gaerdydd

Anerchodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, ddechrau ‘Taith Deddf Eiddo’ Cymdeithas yr Iaith ym Maes Caernarfon heddiw (dydd Gwener, 10 Tachwedd). Yn ystod y daith ar draws cymunedau Cymru, bydd aelodau o weithgor Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith yn trafod yr argyfwng tai gyda’r rheiny sy’n ei brofi’n uniongyrchol.

Yn ei anerchiad, pwysleisiodd Hywel Williams AS bwysigrwydd diwygio’r farchnad dai agored, gan hefyd rybuddio’r perygl y gall Llywodraeth San Steffan ymyrryd yn y broses honno. Dywedodd Hywel Williams:

“Mae pobl ar lawr gwlad yma yn Arfon ac ar draws Cymru yn teimlo effaith niweidiol y farchnad dai agored, sydd yn amlwg i bawb wedi methu. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i gywiro’r diffygion hyn a sicrhau bod y farchnad dai yn gweithio er budd pobl leol.

“Ar yr un pryd, rhaid bod yn wyliadwrus o Lywodraeth yn San Steffan sy’n fwyfwy parod i ymyrryd mewn materion datganoledig.”

Bydd y daith yn ymweld â chymunedau ar hyd a lled Cymru i gasglu tystiolaeth fideo gan unigolion a chymunedau sy’n profi niwed y farchnad dai agored. Bydd hefyd sgyrsiau am enghreifftiau o arferion da a mentrau cymunedol sy’n mynd i’r afael â’r heriau hynny drostyn nhw eu hunain. Bydd nifer o’r enghreifftiau yn cael eu rhannu yn sesiwn agoriadol cynhadledd “Yr Hawl i Dai Digonol - Beth sy’n Bosibl yng Nghymru” Cymdeithas yr Iaith yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar ddydd Iau, 16 Tachwedd.

Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:

“Rydyn ni’n awyddus i roi llais i’r rhai sy’n profi effeithiau marchnad dai sy’n trin eiddo fel ased yn hytrach na chartref, ac i’r rhai sy’n mynd ati i leddfu’r effeithiau’r farchnad tai yn eu cymunedau. Wrth lunio’u polisi tai, rhaid i’n Llywodraeth wrando ar a deall pryderon go iawn ar lawr gwlad a’r alwad gref am ddiwygiadau i’r farchnad dai agored.

“Mae’r cwymp yn y nifer o siaradwyr Cymraeg a ganfuwyd gan ganlyniadau’r cyfrifiad y llynedd, a’r all-lifiad o bobl ifanc o’n cymunedau gwledig yn brawf o’r angen i wneud hyn a chreu cymunedau sefydlog, ffyniannus.