Lansio gweledigaeth newydd Cymdeithas yr Iaith: Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg

Ar ddiwedd wythnos o ddathlu chwe deg mlynedd o ymgyrchu rydyn ni'n edrych o'r newydd ar yr heriau fydd yn wynebu'r Gymraeg dros y ddegawd i ddod wrth gyhoeddi maniffesto newydd: Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: Cymdeithasiaeth i’r 21ain Ganrif.

Bob deng mlynedd ers ei sefydlu mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi maniffesto sydd yn ymateb i heriau'r cyfnod ac yn gosod brwydr y Gymraeg a chymunedau Cymru mewn cyd-destun ehangach. Bydd maniffesto Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg yn cael ei lansio am 2pm ar 05/08/2022 ym Mhabell y Cydmeithasau 1 ar faes yr Eisteddfod.

Mae annibyniaeth yn cynyddu mewn poblogrwydd ac yn cael ei drafod yn y prif-ffrwd gwleidyddol ond yn ôl maniffesto y Gymdeithas fydd annibyniaeth wrth ei hun ddim yn sicrhau dyfodol y Gymraeg, gweledigaeth y mudiad yw "Gwlad annibynnol na fydd yn ail-greu’r wladwriaeth Brydeinig gyfalafol a gormesol ar raddfa lai, ond un a fydd yn adeiladu cymdeithas dra gwahanol, wedi’i seilio ar ryddid i holl bobl a chymunedau’r wlad...gwyddom na fydd annibyniaeth gyfansoddiadol ar ei phen ei hun yn ddigonol i sicrhau dyfodol y Gymraeg, heb fod yr iaith wedi’i sefydlu fel priod iaith Cymru a’r cysyniad o ddinasyddiaeth Gymraeg i bawb wedi’i chofleidio"

Mae'r maniffesto hefyd yn trafod un o’r argyfyngau mwyaf sy’n ein wynebu, yr argyfwng hinsawdd, ac yn rhybuddio na fydd cymunedau Cymraeg ar blaned farw. Yn ôl y mudiad, yr un grymoedd sy’n bygwth y Gymraeg ag sy’n bygwth ein hamgylchedd naturiol, ac mae’r maniffesto yn cynnig syniadau ar gyfer mesurau y gellir eu cymryd i gryfhau cymunedau a’r iaith fydd hefyd yn diogelu yr amgylchedd. Ymysg y cynigion, mae’r mudiad yn galw am:

  • wneud trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb, gyda dyletswydd i sicrhau cysylltedd i bob cymuned;
  • ail-agor rheilffyrdd ar draws y wlad;
  • fuddsoddiad sylweddol mewn annog a chefnogi prosiectau ynni gwyrdd cymunedol;
  • grymuso cymunedau ar draws y wlad i gychwyn a chynnal mentrau cydweithredol, a phrynu a rhedeg asedau cymunedol, gyda chymorth penodol a chymhellion ariannol i annog defnydd o’r Gymraeg;
  • creu miloedd o swyddi gwyrdd ar draws y wlad trwy fuddsoddiad a rhaglen strategol i wella is-adeiledd, inswleiddio ac uwchraddio tai presennol; a
  • sefydlu hawliau cymunedol i wasanaethau lleol megis ysgolion, banciau a meddygfeydd.

Dywed Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae’n amlwg bod y Gymraeg, ein cymunedau a’r blaned yn wynebu heriau mawr dros y blynyddoedd i ddod. Gwelwn mai’r un grymoedd sy’n bygwth y Gymraeg a’n cymunedau ag sy’n bygwth ein hamgylchedd naturiol. "Hynny yw, system economaidd a llywodraethau sy’n gaeth i resymeg y farchnad ‘rydd’ dros les cymunedau, pobl a’r blaned.
Mae modd creu Cymru sydd wir yn gynaliadwy ymhob ystyr o’r gair ond mae hynny'n ddibynnol ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Galwn ni ddigalonni ac ildio neu gallwn ni fynd ati i greu'r Gymru yr ydyn ni'n dyheu amdani.
"Felly rydyn ni'n galw ar bawb sy’n rhannu’r weledigaeth am Gymru rydd, Gymru Werdd, Gymraeg, i ymuno â ni i weithredu, i ddychmygu a gwireddu’r Gymru newydd hon."

Mae'r Maniffesto i'w weld yma