Llafur wedi'i chwalu yn y Gymru Gymraeg

LlafurMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw heddiw ar Blaid Cymru ac ar y Rhyddfrdwyr Democrataidd i sicrhau na chaiff Llafur Newydd fynd yn ei blaen i anwybyddu'r Gymru Gymraeg yn dilyn ei chwalfa yn yr Etholiad.

Meddai Dafydd Morgan Lewis (Swyddog Ymgyrchoedd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith):"Mae'r Blaid Lafur wedi cael ei chwalu'n llwyr yn yr Etholiad ym mhob un o'r etholaethau Cymraeg ac yn y rhannau Cymraeg o etholaethau eraill.""Os caiff Llafur ei ffordd, fe aiff ymlaen i anwybyddu'r Cymry Cymraeg sydd wedi'i gwrthod, ond ni chaiff wneud hynny bellach heb gefnogaeth plaid arall.""Yr ydym yn galw heddiw ar Blaid Cymru ac ar y Rhyddfrydwyr Democrataidd i wrthod unrhyw gytundeb gyda Llafur oni bydd sicrwydd o:* Deddf Iaith ystyrlon;* Tai fforddiadwy i bobl ifainc yn yr ardaloedd Cymraeg, a* Diogelu'n hysgolion pentrefol Cymraeg.""Rhaid i bopeth newid ar ol y canlyniad ysgubol hwn yn y Gymru Gymraeg."