Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando

Cadwn Ein Hysgolion.JPGHeddiw (Chwefror 5ed 2009) daeth Gweithgor Ysgolion Gwynedd yn ôl ac argymhellion o flaen y Pwyllgor Craffu Plant a Phobol Ifanc, yn datgan y bydd y cyngor yn mynd rhagddi gyda chynllun o ymgynghori llawn.

Meddai Ffred Ffransis, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith -"Rydym yn llongyfarch y cynghorwyr am eu parodrwydd i wrando ac argymell sefydlu peirianwaith i hybu trafodaeth mewn ysgolion a chymunedau fesul dalgylch ysgol uwchradd o ran sefydlu trefn addysg y dyfodol.""Cytuna Cymdeithas yr Iaith mai tu fewn i gymunedau lleol y dylid canfod yr atebion. Mewn siroedd eraill, mae swyddogion yn ffurfio cynlluniau manwl tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd y Sir. Bydd angen amynedd a dyfalbarhad yng Ngwynedd i ganfod yr atebion gorau o ran ysgolion a fyddant yn gwasanaethu cymunedau Cymraeg lleol. Ond y wobr am yr amynedd a'r dyfalbarhad fydd trefniadau y mae cymunedau lleol yn teimlo perchnogaeth arnynt."