Llongyfarch Pwyllgor Cynllunio Ynys Môn

Heddiw (Hydref 2 2013) wedi cyfarfod o bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Fôn, mae Cymdeithas yr Iaith yn llongyfarch aelodau'r pwyllgor am bleidleisio yn erbyn cynllun gan gwmni Land & Lakes i adeiladu parc gwyliau a datblygiad tai yn ardal Penrhos.

Bwriad y cwmni oedd datblygu'r safle fel pentref gwyliau, gyda dros 500 o fythynnod gwyliau gan gynnwys datblygiad tai a phentref ychwanegol i ymgartrefu gweithwyr yn ystod cyfnod adeiladu gorsaf niwclear y Wylfa.

Dywedodd Osian Jones Swyddog Maes y Gogledd Cymdeithas yr Iaith: “Daeth hi'n amlwg yn ystod y cyfarfod heddiw, bod teimladau cryfion iawn ymysg trigolion Môn yn erbyn y cynllun yma gan gwmni Land & Lakes. Daeth hynny i'r amlwg gyda deiseb oedd wedi ei lofnodi gan 4,500. Daeth hi'n amlwg hefyd yn ystod y cyfnod ymgynghorol i'r cynllun bod teimladau cryfion yn erbyn y cynllun oherwydd yr effaith niweidiol y byddai'r cynllun yn ei gael ar sefyllfa fregus yr iaith ar yr ynys”

Ychwanegodd: “Rydym fel mudiad am weld datblygu, ond datblygu cynaliadwy syn ateb gofynion lleol. Mae gan Ynys Môn llawer i'w gynnig, a rydym yn sicr y byddai unrhyw ddatblygiad sensitif wedi ennill y dydd heddiw, ond be gafwyd oedd cwmni o du allan i Gymru yn ceisio gwneud arian o harddwch naturiol ein gwlad heb unrhyw ystyriaethau o gwbl am gymeriad unigryw'r sir.

"Rydym felly yn llongyfarch y cynghorwyr hynny am ddewis yn ddoeth heddiw, ac o beidio â chael eu bwlio gan dactegau sinigaidd swyddogion cynllunio, am unwaith bu i'r cynghorwyr wrando ar lais y bobol, a rhaid eu llongyfarch am hynny”