Mae'r frwydr dros Fesur Iaith yn parhau y tu mewn i garchar y Parc

Dedfrydwyd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis i 5 diwrnod o garchar gan ynadon Llanelli ddydd Llun ac fe'i cludwyd i garchar Parc, Pen-y-bont. Roedd ei garchariad yn dilyn ei ran yn ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Fesur Iaith cynhwysfawr newydd a fyddai'n cynnwys y sector breifat.Mewn sgwrs ffôn gyda'i wraig Meinir Ffransis heddiw, ddydd Mawrth, dywedodd Ffred nad oedd unrhyw ddarpariaeth o gwbl yn Gymraeg yng ngharchar Parc. Nid oes unrhyw ffurflenni nac arwyddion Cymraeg na dwyieithog, ac nid oes hyd yn oed Beibl Cymraeg ar gael yno. Gwrthodwyd yr hawl i Ffred fynd â'i Destament Newydd Cymraeg gydag ef o'r llys yn Llanelli, a dywedwyd y byddai Beibl ar gael iddo yn y carchar - ond yn Saesneg yn unig.Dywedodd Ffred hefyd ei fod wedi gwrthod arwyddo'r ffurflen remisiwn a fyddai'n caniatáu iddo gael ei ryddhau wedi dwy ran o dair o'i ddedfryd, sef 3 diwrnod, gan fod y ffurflen yma hefyd yn uniaith Saesneg, ac mae'n bosib felly na chaiff ei ryddhau tan iddo wneud y ddedfryd yn gyfan. Dywedodd hefyd ei fod wedi gwrthod llanw ffurflen ar gyfer cael bwyd llysieuol, eto ffurflen uniaith Saesneg, ac felly dim ond tato sydd ar gael iddo i'w fwyta.

Er mai cwmni preifat Group 4 sy'n gyfrifol am y carchar, maent yn atebol i'r Llywodraeth ac mae cyfrifoldeb eisoes arnynt i fod â pholisi iaith. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw ymdrech i wasanaethu Cymry Cymraeg er bod rhan fawr o'r carcharorion yn dod o Gymru.Mae'r uchod unwaith eto yn enghraifft o'r angen i ddatganoli pwerau llawn ym maes y Gymraeg o Lundain i Gymru, fel bod modd creu Mesur Iaith cyflawn a fyddai'n gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, yn rhoi hawliau i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob sector, ac yn sefydlu Comisiynydd i'r Iaith Gymraeg.Welsh campaigner refuses to sign prison release forms written in English - telegraph.co.uk - 03/06/09Protesting on Welsh facilities - Western Mail - 03/06/09'prison made me eat only potatoes' - South Wales Evening Post - 03/06/09Mae Ffred wedi cael ei ddedfrydu i rhyw 6 mlynedd o garchar ers y 70au, ac wedi bod yn y carchar am gyfnod o rhyw 4 mlynedd. Mae wedi ei garcharu 8 o weithiau. Y dedfrydau hir oedd:1987 (Llys Caerdydd) - Corff Datblygu Addysg Gymraeg (Blwyddyn - yn y carchar am 9 mis)1973 (Llys Huddersfield) - Sianel Gymraeg (Blwyddyn - yn y carchar am 9 mis)1971 (Llys Wyddgrug) - Sianel Gymraeg (3 blynedd - yn y carchar am 2 flynedd)1970 (Uchel Lys Llundain) - Cefnogi Dafydd Iwan, Arwyddion Ffyrdd (3 mis - yn y carchar am ddeufis)