Maer tref Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith

Ble mae'r Gymraeg?Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Maer Tref Caerfyrddin yn llenwi ffurflen gwyno y tu allan i siop Tesco yng Nghaerfyrddin bore dydd Iau y 27/3 am 11am. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn gan ganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth a Ebrill.

Dywed Bethan Williams, Cadeirydd grwp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Fe fyddwn yn targedi y cwmnïau hynny sydd yn cymryd arian pobl Cymru, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn galw ar bobl Cymru i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at y cwmniau yma ynglyn â'u polisi iaith ddiffygiol. Fe fyddwn hefyd yn trefnu picedi a phrotestiadau y tu allan i ganghennau Tesco a Morrisons ledled Cymru dros y deufis nesaf."Ychwanegodd:"Rydym yn galw ar y cwmniau yma i sicrhau bod y canlynol yn ddwyieithog: pob arwydd parhaol, deunydd marchnata tymhorol ac arwyddion dros dro, cyhoeddiadau system sain, pecynnu cynnyrch ei hunain. Galwn hefyd arnynt i ddefnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny'n bosibl a sefydlu cynlluniau hyfforddi staff i'w galluogi i weithio a chynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:"Fe fyddwn yn dosbarthu taflenni tu allan i Tesco yng Nghaerfyrddin fore Iau gan ofyn i'w cwsmeriaid i lythyru'r cwmni er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o'r galw yng Nghymru am wasanaethau dwyieithog. Fe fydd Maer Caerfyrddin yn arwain y ffordd drwy ysgrifennu llythyr o gwyn y tu allan i'r siop. Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Tesco a Morrisons ac mae'n amlwg bellach os na cheir Deddf i orfodi'r sector breifat i roi statws cyfartal i'r Gymraeg - gwasanaeth tocinistaidd Cymraeg yn unig y gallwn ddisgwyl. Galwn felly ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth ieithyddol newydd yn cynnwys y sector breifat."