Cymdeithas yr Iaith yn ymateb i faniffesto Comisiynydd y Gymraeg

Mae angen i faniffesto Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer etholiadau Senedd 2026 gynnwys galwadau penodol am ymestyn y Safonau i’r sector breifat a sicrhau nad yw unrhyw ddatblygiadau i waith y Comisiynydd yn tynnu oddi ar ei gwaith craidd, sef rheoleiddio sefydliadau sy’n dod o dan y Safonau.

Dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Mae rhai pethau i’w croesawu yn y maniffesto, fel ymestyn y Safonau i gyrff newydd, ond mae angen galwad glir am estyn Safonau i’r sector breifat, megis cwmnïau’r stryd fawr. Rydyn ni’n synnu nad yw’r maes digidol wedi ei gynnwys yn y maniffesto, o ystyried adroddiad diweddar y Comisiynydd oedd yn dangos bod defnydd isel o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc wrth ddefnyddio’r we a’r cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni’n galw am ddatganoli grymoedd darlledu o Lundain i Gymru, ac am sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg fyddai’n gweddnewid sefyllfa’r Gymraeg ar-lein.
“Rydyn ni’n falch o weld galwad gan y Comisiynydd i weithredu argymellion y Comisiwn Cymunedau, sy’n hollbwysig o ran sicrhau dyfodol llewyrchus i’n cymunedau. Bydd angen mwy o adnodddau ar gyfer hynny a byddem yn ategu’r alwad am ragor o adnoddau ac am ehangu gwaith y Comisiynydd, ond o ystyried ein pryderon diweddar am gyfeiriad y Comisiynydd yn gwanhau’r gyfundrefn reoleiddio, mae angen ymrwymiad clir gan y Comisiynydd na fydd unrhyw waith newydd yn digwydd ar draul y gwaith rheoleiddio. Rhaid sicrhau hawliau pobl Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg.”