Neges Gweinidog: "Cymunedau’n gryfach gyda’r Gymraeg"
2026-07-05
Cartref > Newyddion > Neges Gweinidog: "Cymunedau’n gryfach gyda’r Gymraeg"
Darllenwyd neges o gefnogaeth gan y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan, yn rali ‘Troi’r Llanw Dros y Gymraeg’ a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith heddiw (4/7) i alw ar y llywodraeth newydd i ‘droi’r llanw o blaid y Gymraeg’ ar ôl degawdau o ymgyrchu.
Daw'r digwyddiad dri diwrnod cyn i’r Gweinidog wneud datganiad yn y Senedd (7/7) ar flaenoriaethau'r llywodraeth yn y maes.
Yn y llythyr, dywed:
“Dwi am ddechrau drwy ddweud un peth clir: dyw’r Gymraeg erioed wedi datblygu drwy ewyllys da yn unig. Mae wedi symud ymlaen oherwydd bod pobl wedi mynnu newid, wedi dal sefydliadau i gyfrif, ac wedi gwrthod derbyn y statws quo.
“Dyna pam mae gwaith Cymdeithas yr Iaith mor bwysig. Am ddegawdau, rydych chi wedi cadw pwysau arnon ni i gyd – yn deg, yn ddygn, ac weithiau yn anghyfforddus.
“Felly diolch i chi am eich gwaith diflino, ac am yr aberth o amser, egni – a rhyddid – sydd wedi helpu i sicrhau dyfodol i’n hiaith ni.”
Ymhlith siaradwyr y rali oedd Dafydd Iwan, Mici Plwm a Gwyneth Glyn, yn ogystal â chynrychiolwyr o gymunedau ledled Cymru a gafodd funud i alw am weithredu dros eu cymuned.
Dywedodd Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Wedi blynyddoedd o ymgyrchu a chrafu rhai enillion fan hyn a fan draw i’r Gymraeg, mae cyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru weithredu’n radical i droi’r llanw o blaid yr iaith a’n cymunedau. Er ein bod wedi gweld peth cynnydd mewn addysg Gymraeg ac wedi sicrhau rhai hawliau i unigolion ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd, mae perygl i hynny gael ei danseilio os byddwn yn colli hyd yn oed mwy o’n cymunedau Cymraeg yn ystod y tymor seneddol hwn.
“Rydym yn croesawu’r gefnogaeth gan Anna Brychan, ac yn disgwyl y cawn gadarnhad gan y Gweinidog yn ei datganiad ddydd Mawrth eu bod – yn wahanol i’r Llywodraeth flaenorol – yn derbyn holl argymhellion tri adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ac yn cyflwyno amserlen weithredu sy’n adlewyrchu argyfwng ein cymunedau. Yr hyn sydd ei angen yw disodli ymateb annigonol y llywodraeth flaenorol ac ailgyhoeddi un ei hun.
“Galwn ar Lywodraeth Cymru i droi’r llanw sy’n achosi tranc ein cymunedau Cymraeg drwy gyflwyno Deddf Eiddo i sefydlu’r hawl i gartref a chreu marchnad leol er mwyn sefydlu sail gyfreithiol gryf i sicrhau cartrefi a gwaith i bobl yn y cymunedau hyn.”
Meddai Siân Howys, a fydd yn siarad yn y rali ar ran Cymdeithas yr Iaith:
“Gyda llwyddiant Plaid Cymru yn etholiadau’r Senedd, nawr yw’r cyfle i ddyblu ymdrechion i droi’r llanw go iawn. Mae addewidion maniffesto’r Blaid a chyhoeddiadau diweddar Gweinidogion Senedd Cymru yn addawol. Sefydlu’r Hawl i gartref, gweithredu targed y Bil Addysg a’r Gymraeg o 50% o blant mewn addysg Cymraeg erbyn 2050, ymestyn hawliau i’r Gymraeg yn y sector breifat ynghyd â’r mesurau i greu cymdeithas fwy cyfartal, gofal plant am ddim, buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, cryfhau ein gwasanaeth iechyd a herio San Steffan bob cam o’r ffordd wrth iddyn nhw drin Cymru mewn modd mor israddol. Er mwyn i’r Gymraeg fyw, rhaid i bopeth newid.”
Ar ddiwedd y rali fe dorf greu rhes ar hyd ystlys y cae pêl-droed, a chodi cardiau coch yn eu tro i greu ton o alwad ar y Llywodraeth i droi'r llanw dros y Gymraeg.
Mae lluniau o'r rali i'w gweld yma