Olwyn Ffawd - Faint o Dai?

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi chware gem o "Olwyn Ffawd", er mwyn ceisio dyflau fiant o dai a ddaw yn sgil y Cynllun Datblygu Lleol.

Yn gynharach yn y flwyddyn, cafwyd protest y dîs gan Gymdeithas yr Iaith pan gyffelybwyd ffigyrau Cyngor Gwynedd i rowlio dîs wrth benderfynu faint o dai newydd ddylid eu caniatau. “Mae'r elfen o hap chwarae yn parhau” meddai Angharad Tomos ar ran Cymdeithas yr Iaith. “Heb asesu yr angen gwirioneddol am dai ym mhob cymuned, mae ffigyrau'r Cyngor yn y Cynllun Adnau yn gwbl ddiystyr.”

Mae'r Gymdeithas wedi galw yn gyson i'r Cynllun Adnau gael ei atal nes bod asesiad ieithyddol wedi ei wneud i'r datblygiadau tai arfaethedig. Mae'r Cyngor wedi gostwng nifer y tai, ond nid oes unrhyw resymeg tu ôl i hyn, ar wahan i dawelu ymgyrchwyr.
 
Mae lle i gredu fod gobaith i atal y cynllun gan fod nifer o gynghorwyr wedi mynegi pryder. Cafwyd datganiad diweddar gan Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd eu bod wedi arwain y gwaith o bwyso am newid yn y Bil Cynllunio i sicrhau fod y Gymraeg yn ystyriaeth cynllunio, “er mwyn sicrhau fod iaith a diwylliant cymunedau Gwynedd a Chymru gyfan yn cael ei gwarchod a chael cyfle i ffynnu.” 

“Rydym yn derbyn awydd gwironeddol nifer o gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd i wneud eu gorau dros y Gymraeg” medd Angharad, “Mae pwysau wedi bod o du y Llywodraeth iddynt ganiatau miloedd o dai yn y Cynllun Datblygu, ond y pen draw mae'n rhaid iddynt benderfynu. Naill ai gallant ddewis y nifer o dai wedi ei seilio ar angen lleol, neu gallant ei ddewis ar sail ffigyrau'r Llywodraeth.”

Ar Ragfyr 1af mae gwahoddiad i gynghorwyr ddod ynghyd ar wahoddiad Cymdeithas yr Iaith i drafod yr alwad am stopio'r Cynllun Datblygu.