Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r cytundeb rhwng BBC, S4C a DCMS.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydym yn credu fod y penderfyniad yn un annemocrataidd gan na fu ymgynghori â phobl Cymru ynghylch y cynlluniau ar gyfer dyfodol y sianel. Dyna pam rydym yn dweud mai'r unig opsiwn bellach yw datganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru fel bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yng Nghymru ac er lles Cymru."
Ymgyrchu'n dwyn ffrwyth
"Mae natur y bartneriaeth a gyhoeddwyd heddiw yn dangos fod ymgyrchu miloedd o bobl Cymru dros y misoedd diwethaf wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o dan yr amodau a osododd Jeremy Hunt, ac yn golygu fod y sefyllfa'n llawer iawn gwell nac y byddai fel arall. Rhaid nodi, o dan y cynlluniau hyn, ni fydd S4C yn parhau fel darlledwr annibynnol gan mai darlledwr arall fydd yn penderfynu ei chyllideb.
"Yn wahanol i'r BBC, S4C a Llywodraeth Llundain, rydym ni yn ymgynghori gyda'r sawl sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i wrthod talu'r drwydded deledu, ac yn eu gwahodd i gyfarfod Senedd Cymdeithas yr Iaith Ddydd Sadwrn 29ain, neu i anfon eu barn atom cyn i ni ddod i benderfyniad ynghylch dyfodol yr ymgyrch."