PEIDIWCH Â CHEFNU AR GYMUNED ABERSOCH - Ple Cymdeithas yr Iaith i Gynghorwyr Gwynedd

O flaen eu cyfarfod Ddydd Mawrth nesaf (28/9), mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau Cabinet Cyngor Sir Gwynedd i beidio â chefnu ar y gymuned leol yn Abersoch trwy gau ysgol y pentref.  Mewn llythyr at bob aelod o'r Cabinet, dywed Ffred Ffransis ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith mai'r "ysgol yw ei gobaith at y dyfodol fel sefydliad cwbl Gymraeg ac yn seiliedig ar blant, ac yn ddatganiad fod y Gymraeg yn perthyn i bob dinesydd y dyfodol yn Abersoch, beth bynnag fo eu cefndir."

Bydd y Cabinet yn ystyried ar gymhelliad gan eu swyddogion i gadarnhau'n derfynol y Rhybudd Statudol i gau'r ysgol ar Ragfyr 31ain eleni ac i anfon y plant at Ysgol Sarn Bach, ond mae Mr Ffransis yn eu rhybuddio nad ydynt wedi ystyried "gyda meddwl agored" yr opsiynau amgen a godwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghorol a'r Cyfnod Gwrthwynebiadau. Yn hynny o beth, byddent yn methu yn eu cyfrifoldeb i gadw at y Côd Trefniadaeth Ysgolion.

Mae'r Gymdeithas wedi ffafrio ffederasiwn rhwng ysgolion yr ardal gyda safle arbennig Ysgol Abersoch fel "Ysgol Traeth" yn ehangu'r profiad addysgol i holl ysgolion y cylch, ac yn galw ar y Cabinet i ohirio eu penderfyniad tan y Pasg i roi cyfle trafod yn fanwl yr opsiynau eraill.

Mae'r llythyr wedi pwyntio allan fod adroddiad y swyddogion hefyd yn dangos parodrwydd i golli Cylch Meithrin a Cylch Ti a Fi Abersoch gan fod yr adroddiad, wrth gostau arbedion ariannol, yn datgan "na fyddai unrhyw gostau cynnal a chadw i Ysgol Abersoch i’r dyfodol."

Gellir gweld y llythyr llawn trwy glicio yma