Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio heddiw yn Sgwâr Canolog Caerdydd er mwyn galw ar Gyngor Caerdydd i fabwysiadu polisïau cynllunio sy'n sicrhau tegwch i'r Gymraeg yn y brifddinas.
Mae datblygwyr y Sgwâr Canolog yn cael eu beirniadu am mai enw uniaith Saesneg sydd ar y datblygiad - ‘Central Square’ - ac fod holl arwyddion yr ardal yn uniaith Saesneg.
Meddai Carl Morris, cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni'n pryderu am y ffaith mae’r enw 'Central Square' sydd ar y datblygiad a’r arwyddion. Mae Cyngor Caerdydd yn clodfori budd y datblygiad yma felly dylen nhw dderbyn cyfrifoldeb am fethu sicrhau lle priodol i'r Gymraeg ym mhrifddinas Cymru. Mae hyn yn codi cwestiynau am agweddau a pholisïau cynllunio’r Cyngor, ac i ba raddau maen nhw’n gwerthfawrogi anghenion cymunedau lleol. Beth sy'n bwysicach i Gyngor Caerdydd: elw i gwmnïau datblygu anferth neu'r hyn sydd ei angen ar drigolion y ddinas?”
Mae’r brotest yn digwydd yn dilyn llwyddiant y mudiad y llynedd yn ei ymgyrch i newid arwydd uniaith Saesneg gorsaf trenau Heol y Frenhines.