Protestiadau Thomas Cook yn llwyddiant

Thomas Cook ban WelshCafwyd ymateb da i'r protestiadau gynhaliwyd yn erbyn cwmni Thomas Cook heddiw. Trefnwyd y protestiadau gan Gymdeithas yr Iaith ar ôl clywed fod y cwmni yn gwahardd y staff rhag siarad Cymraeg.

Roedd tros gant o bobl wedi ymgasglu tu allan i siop y cwmni ym Mangor lle'r oedd yna nifer yn chwarae drymiau. Roedd dros 70 yng Nghaerdydd lle roedd yr Aelod Cynulliad Leanne Wood yn un o'r dorf. Picedwyd siop y cwmni yng Nghaerfyrddin gan ddwsin o aelodau'r Gymdeithas hefyd. Gwisgai nifer o brotestwyr arwyddion Welsh Not am eu gyddfau tra bod eraill wedi rhoi tâp ar eu cegau.Dywedodd Dewi Snelson oedd yn trefnu'r brotest ym Mangor lle dechreuodd yr helynt fod yr ymateb gan bobl ar y stryd wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda phawb yn barod i arwyddo llythyr o gwyn sydd i'w anfon at Thomas Cook. Cafwyd ymateb yr un mor frwd i'r brotest Nghaerdydd a Chaerfyrddin.Bydd y Gymdeithas yn awr y cyflwyno y llythyrau protest hyn i gwmniThomas Cook ac yn gobeithio codi'r mater gyda Carwyn Jones AC y gweinidog yn y Cynulliad gyda chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg.Dywedodd Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r helynt hwn wedi dangos yn glir iawn i bawb ohonom pa mor annigonol yw'r Ddeddf Iaith sydd gennym ar hyn o bryd a byddwn yn tynnu sylw Carwyn Jones at hyn ar y cyfle cyntaf a gawn."Cwmni teithio: Protest - BBC Cymru, 15/06/07Further protests at Thomas Cook - BBC Wales, 15/06/07BANGOR01-070615protest-bangor.JPG02-070615protest-bangor.JPG03-070615protest-bangor.JPG04-070615protest-bangor.JPG05-070615protest-bangor.JPG06-070615protest-bangor.JPGCAERFYRDDINprotest-thomascook-caerfyrd.jpgCAERDYDD01-thomas-cook-caerdydd-150607.jpg02-thomas-cook-caerdydd-150607.jpg03-thomas-cook-caerdydd-150607.jpg04-thomas-cook-caerdydd-150607.jpg05-thomas-cook-caerdydd-150607.jpg06-thomas-cook-caerdydd-150607.jpg07-thomas-cook-caerdydd-150607.jpg08-thomas-cook-caerdydd-150607.jpg