Protestio gyda chadwyni yng Nghaerfyrddin

llywodraeth_cynulliad_caerfyrddin.jpg Yn gynnar y bore yma fe osodwyd cadwyni ar draws mynedfa swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin er mwyn rhwystro'r gweithwyr rhag mynd i'w gwaith. Parhaodd hyn am hanner awr cyn i'r heddlu gyrraedd a thorri'r protestwyr o'r cadwyni.

Yn addas iawn roedd hyn ar y diwrnod yr oedd Canghellor y Trysorlys yn cyhoeddi ei bedwerydd Arolwg Gwariant sy'n cynnwys cyllideb y Cynulliad ar gyfer 2005-2008. Gobaith Cymdeithas yr Iaith yw y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio canran uwch o'r gyllideb i'w wario ar y broblem dai yng Nghymru.Arhosodd y protestwyr yno am ddwyawr arall i bicedu'r adeilad. Roedd y weithred hefyd yn rhan o gyfres o weithgareddau a gynhelir dros yr haf er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau penodol fyddai'n lliniaru effaith y cynnydd mewn prisiau tai ar gymunedau Cymru trwy:

  • sicrhau cynnydd sylweddol yn yr arian a roir i'r Cynllun Cymorth Prynu.
  • sefydlu trefn fyddai'n sicrhau darpariaeth o dai ar rent i bobl sydd heb fynediad i'r farchnad dai ond yn dymuno byw yn eu hardal leol.
  • Cynhaliwyd y brotest gyntaf yn adeiladau'r llywodraeth yng Nghaernarfon rai wythnosau yn ôl, a'r ail ar do swyddfeydd y llywodraeth yn Llandrillo-yn-Rhôs ddydd Iau diwethaf.Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal cyfarfodydd gyda nifer o Aelodau'r Cynulliad i drafod y materion hyn ac mae Edwina Hart y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn honni y bydd yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'n gofynion. Mae'r Gymdeithas hefyd yn dosbarthu cardiau post sy'n rhoi cyfle i bobl Cymru gyfrannu at yr ymgyrch trwy alw ar y Llywodraeth i gynnwys y camau uchod yn y Gyllideb a gyhoeddir ym mis Tachwedd.protestio caerfyrddin Dywedodd Menna Machreth, un o'r protestwyr:"Rhaid sicrhau bod gan bobl hawl i fyw yn eu hardal leol os am sicrhau dyfodol i gymunedau Cymru. Byddai rhoi arian digonol i'r Cynllun Cymorth Prynu a sefydlu'r hawl i rentu yn rhoi cyfle i brynwyr tro-cyntaf gystadlu yn y farchnad dai ac yn galluogi pobl sydd eisoes wedi eu cau allan o'r farchnad i rentu ty yn eu hardal leol os ydynt yn dymuno."Ychwanegodd Menna Machreth:"Mae prisiau tai yn parhau i dyfu ar raddfa arswydus yng Nghymru ac o ganlyniad, mae nifer gynyddol o bobl yn wynebu trafferthion wrth geisio sefydlu cartref yn ei hardal leol. Mae'n hollbwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar frys i leddfu effaith yr argyfwng tai ar gymunedau Cymru."Darllenwch mwy oddi ar wefan y Carmarthen Journal