Pryderon y bydd Papur Gwyn ar dai yn “sylweddol wannach” na’r disgwyl

Yn sgil newid enw Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar dai gan Lywodraeth Cymru, mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio y gall fod yn “sylweddol wannach” na’r disgwyl ac na fydd yn cynnwys goblygiadau polisi digon blaengar i fynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n gwynebu cymunedau Cymru.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru a arwyddwyd yn 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i “gyhoeddi Papur Gwyn a fydd yn cynnwys cynigion ar gyfer hawl i gartref digonol” cyn diwedd tymor y Senedd hon. Mae disgwyl i’r Papur Gwyn gael ei gyhoeddi cyn diwedd y mis. 

Fodd bynnag, mewn sesiwn graffu yng nghyfarfod Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai'r Senedd ar 10 Hydref, cyfeiriodd Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai Llywodraeth Cymru at y Papur Gwyn fel un ar “ddigonolrwydd tai, rhenti teg a fforddiadwyedd”, gan hepgor y gair “hawl” yn gyfan gwbl. 

Mae’r “hawl i dai digonol” yn egwyddor sy’n cael ei hyrwyddo gan y Cenhedloedd Unedig, ac y mae sawl mudiad yng Nghymru, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith a Shelter Cymru, yn ymgyrchu dros ei sefydlu yng nghyfraith ddomestig Cymru. Byddai sefydlu’r hawl yn gosod cyfrifoldeb ar Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tai addas, fforddiadwy, ac sy’n bodloni anghenion diwylliannol ar gael yn lleol i bawb yng Nghymru.

Yn ymhelaethu ar bryder y mudiad, dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:

“Byddai’n hynod siomedig pe bai’r Llywodraeth yn gollwng egwyddor greiddiol y Papur Gwyn yr ymrwymodd iddo dair blynedd yn ôl, sef sefydlu’r hawl i dai digonol. Heb hwnnw, rhaid cwestiynu gwerth cyhoeddi Papur Gwyn o gwbl.

“Gall gymunedau ar draws Cymru dystio i’r argyfwng maen nhw’n eu gwynebu oherwydd methiant y farchnad tai agored i ddarparu cartrefi ar gyfer pobl leol. Yn anffodus, dydy’r Llywodraeth ddim i’w weld yn deall yr argyfwng.

“Rydym yn galw am gyflwyno Deddf Eiddo cynhwysfawr fyddai, ymysg pethau eraill, yn corffori’r hawl i dai digonol yng nghyfraith Cymru a sicrhau bod yr hawl i gartref yn hawl sylfaenol, fel mae hawl i addysg neu wasanaeth iechyd. Dyna’r unig ffordd o sicrhau dyfodol i’n cymunedau, ond mae Papur Gwyn y Llywodraeth yn debygol o fod yn sylweddol wannach na hynny.”