Pump gerbron Llys Ynadon Hwlffordd

radio_carmarthenshire.JPG Fe dderbyniodd chwech aelod o Gymdeithas yr iaith Gymraeg rybudd gan yr heddlu, yn ystod y dydd heddiw, am achosi difrod troseddol yn ystod protest yn stiwdio Radio Carmarthenshire nôl ym mis Gorffenaf.

Fe wrthododd pedair arall - Heledd Gwyndaf, Angharad Blythe, Llinos Dafydd a Gwenno Teifi - y rhybudd gan eu bod yn teimlo fod Steffan Cravos, sydd wedi ei gyhuddo o 'Glwyfo' yn ogystal a difrod troseddol, wedi ei gyhuddo ar gam o 'Glwyfo' un o weithwyr radio Carmarthenshire, tra'r oedd hi yn sefyll tu ôl i ddrws yn ceisio atal mynediad y protestwyr i'r stiwdio.Bydd y pedair a wrthododd y rhybudd swyddogol, yn ogystal â Steffan Cravos, yn awr yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ar Chwefror 1af. Bydd Steffan Cravos yn pledio yn ddi-euog i'r cyhuddiad o glwyfo.