Radio Carmarthenshire - Ni'n Gwrando!

radio_carmarthenshire.JPG Heddiw, 13/6/04, mae Radio Carmarthenshire yn dechrau darlledu go iawn yn Sir Gâr, ac ar drothwy’r digwyddiad hwn fe gododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith faner ar fast trosglwyddo Carmel ger Cross Hands. Mae’r neges ar y faner yn syml – “ni’n gwrando”.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Radio Carmarthenshire wedi bod yn darlledu darllediadau prawf yn uniaith Saesneg. Mae nifer o’n haelodau wedi bod yn gwrando, ac er bod Radio Carmarthenshire yn honni bod llawer o’r trelars yn Gymraeg, does neb wedi’u clywed. Pan ysgrifennodd un o’n haelodau at Keri Jones (Rheolwr Gyfarwyddwr Radio Carmarthenshire) i gwyno am hyn a’r ffaith bod yr holl gerddoriaeth yn Saesneg hefyd, cafodd ymateb diddorol a dadlennol. Dywed Keri Jones yn ei ateb:“it appears that Radio Carmarthenshire / Radio Sir Gâr is not to your personal taste. We can’t please everyone can we! ….I admit defeat and I guess that you’ll be going back to Radio Cymru.”Mae’r orsaf radio lleol yma i fod i wasanaethu holl drigolion Sir Gâr, ond ymddengys ei bod yn anwybyddu’r Cymry Cymraeg. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn gwrando’n astud ar y ddarpariaeth o hyn tan ddiwedd mis Mehefin ac yn ymateb yn ôl yr hyn a glywn ar yr orsaf newydd.