Radio Cymru Mwy: dylai fod ar bob radio digidol ac yn barhaol

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu lansiad BBC Radio Cymru Mwy heddiw, gan alw ar i benaethiaid y gorfforaeth sicrhau bod yr arbrawf yn dod yn barhaol ar bob radio digidol  

Mae'r mudiad wedi bod yn annog darlledwyr i ehangu eu gwasanaethau ar ragor o blatfformau ers nifer o flynyddoedd. Mae'r mudiad wedi croesawu gwasanaeth newydd ar-lein S4C hefyd o'r enw 'Pump', ac wedi galw ar i Awdurdod S4C ehangu gwasanaethau Cymraeg i nifer o blatfformau eraill, gan gynnwys radio.   

Ar hyn o bryd, bydd Radio Cymru Mwy ddim ond ar gael ar radio digidol yn Ne-Ddwyrain y wlad.  

Dywedodd Curon Davies, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith:  

"Ry'n ni'n croesawu'r lansiad yma gan fod dybryd angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg, ar gyfer pobl ifanc yn enwedig. Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yma yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth. Rydyn ni'n galw ar i'r BBC ymestyn y gwasanaeth i radio digidol ym mhob rhanbarth o Gymru, yn hytrach na'r De Ddwyrain yn unig.  

"Ry'n ni wedi galw am sefydlu gwasanaeth annibynnol newydd ar draws nifer o blatfformau gydag adnoddau sylweddol – nid dyna yw'r hyn a lansiwyd heddiw, ond mae'n gam yn y cyfeiriad cywir a dymunwn pob llwyddiant i'r gwasanaeth newydd. Yn sicr, byddwn ni'n galw ar i benaethiaid y BBC wneud yr arbrawf yma yn un parhaol a'i ddatblygu'n bellach fel bod y Gymraeg yn cael ei chlywed ar bob un platfform. Wrth edrych ymlaen, byddwn ni'n pwyso ar Lywodraeth Prydain i ymestyn cylch gwaith a chynyddu adnoddau fel bod modd i Awdurdod S4C gomisiynu rhagor o wasanaethau Cymraeg."