Rali i fynnu hawliau i'r Gymraeg

Menna Machreth Rali CaerdyddDaeth dros 300 i rali a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw. Bwriad y rali oedd i dynnu sylw at y ffaith nad yw'r Gorchymyn Iaith yn ei ffurf bresennol yn mynd digon pell.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:''Ni fydd y Gorchymyn iaith, fel y mae yn awr, yn gwneud gwahaniaeth digonol i fywyd pobl Cymru o ddydd i ddydd, mae angen trosglwyddo'r holl bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg yma i Gymru. Rydyn ni'n falch iawn fod rhai o wynebau amlwg Cymru wedi datgan cefnogaeth i'n galwadau drwy siarad yn y rali neu drwy roi'u henwau ar hysbyseb ar gyfer y rali.''Dywedodd Hywel Teifi Edwards wrth annerch y rali:"Ni'r Cymry sydd wedi creu problem yr iaith, a ni'r Cymry yn ein Senedd sy'n mynd i ffeindio'r ateb teg i'r broblem honno."Dywedodd siaradwraig arall, y ddarlledwraig Angharad Mair:"Rwy'n galw ar bobl fel fi sydd wedi bod yn ddigon breintiedig a lwcus i fwynhau gyrfa lewyrchus yn yr iaith Gymraeg - diolch i ymgyrchu dewr a diflino pobl eraill - i ddangos cefnogaeth i'r frwydr yma i sicrhau dyfodol yr iaith. Mae angen i ni gyd ddatgan yn glir wrth yr aelodau seneddol sydd wedi eu hethol i'n cynrychioli ni ein bod ni'n mynnu mai'r unig le moesol a chyfiawn i wneud penderfyniadau am yr iaith Gymraeg yw yma yng Nghymru ac mae angen deddf flaengar newydd ar frys i sicrhau sefyllfa gyfartal i'r iaith er mwyn ei diogelu ar gyfer y dyfodol."Yn siarad hefyd, roedd Jake Griffiths, Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a ddywedodd:"Mae'r iaith Gymraeg yn achos gwbl Gymreig. Gan fod mwy o bwerau'n cael eu datganoli i'r Cynulliad, mae'n rhaid sicrhau bod hawliau dros unrhyw ddeddfau yn ymwneud a'r iaith Gymraeg yn nwylo'r Cynulliad yng Nghymru yn hytrach nag yn San Steffan."Un arall a oedd yn siarad yn y rali oedd Catrin Dafydd, a ddywedodd:"Gyda deng mlynedd cyntaf datganoli y tu cefn i ni, mae'r amser wedi dod i sicrhau ein bod ni'n cael deddfu ar faes sy'n unigryw i Gymru, yn ein gwlad ni ein hunain. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb sydd wedi dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw, a'r bobol hynny, a'u llywodraeth, ddylai fod ar hawl i benderfynu ar ei dyfodol hi, a neb arall."Hefyd yn siarad roedd Adam Price o Blaid Cymru.Danfonodd y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr hefyd ddatganiad yn cefnogi'r angen i drosglwyddo'r holl bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg i Gymru.Galw am drosglwyddo pwerau deddfu - Golwg360 - 17/05/2009Iaith: Rali i gryfhau mesur - BBC Cymru - 16/05/2009Cymdeithas: Angen cryfhau'r Gorchymyn Iaith - Golwg360 - 15/05/2009Welsh language campaigners urge AMs to insist on full law-making powers - Western Mail - 15/05/2009