Rali yn Nefyn i bwysleisio’r angen i weithredu yn ehangach nag ail dai

Cynhaliwyd rali Nid yw Cymru ar Werth yn Nefyn heddiw i bwysleisio bod angen gwneud mwy na rheoleiddio’r farchnad ail dai a thai gwyliau er mwyn mynd â’r afael ag argyfwng tai ein cymunedau

Mae'n bwysig cydnabod gwaith Cyngor Tref Nefyn ac ymgyrch Hawl i Fyw Adra yn pwyso am rymoedd i reoli gormodedd ail gartrefi a llety gwyliau, ond bod problemau tai yn parhau ar draws Gwynedd ac felly mai rhan o’r broblem un unig yw ail dai a thai gwyliau.

Yn siarad yn y rali am ei anhawster i gael hyd i gartref yn ei gymuned ei hun dywedodd Cynghorydd Tref Nefyn, Iwan Rhys Evans:

"Mae ymdrech ein hachos yn gweithio, mae'r prisiau [tai] yn dechra dod lawr ac mae'r arwyddion 'ar werth' yn mynd fyny. Ond mae rhaid i ni gario mlaen ag ein achos i sicrhau fod ein plant ni ddim yn gorod cynnal rali i gael byw yn eu milltir sgwâr.
"Nid yw mater cartrefi yn ymwneud â’r economi’n unig; mae’n ymwneud â chadw diwylliant, yr iaith, a thraddodiad Cymru. Gadewch inni sefyll gyda’n gilydd i amddiffyn calon Cymru – ein iaith, ein hanes ac ein pobl."

Mae sawl cyngor tref a chymuned ym Mhen Llŷn wedi datgan eu hunain yn ardaloedd â dwysedd uwch o siaradwyr, ac yn galw am roi ystyriaeth i'r Gymraeg ym mholisïau gosod cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol mewn ardaloedd â dwysedd uwch o siaradwyr.

Rydyn ni'n cefnogi yr alwad honno a chynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod gosod polisi tai o'r math yng nghyd-destun ehangach datblygu cymunedau Cymraeg cynaliadwy at y dyfodol.