Ddydd Iau (6 Tachwedd, 2008) mi fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gwneud cyflwyniad ger bron pwyllgor deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynwyd y ddeiseb, sydd a 977 o enwau arno, i Lywodraeth Cymru ddechrau'r haf oherwydd fod Cymdeithas yr Iaith yn gofidio fod y Llywodraeth yn llusgo traed ar fater sefydlu'r Coleg Ffederal Cymraeg gafodd ei addo yng nghytundeb Cymru'n Un. Roedd hi hefyd yn ofid gan Gymdeithas yr Iaith y byddai'r “pyst yn cael eu symud” ac y byddai dim byd mwy na “bwrdd” arall yn cael ei sefydlu.
Mae'r Gymdeithas yn bendant eu barn mae dim ond sefydliad newydd – y Coleg Ffederal Cymraeg – fyddai'n darparu newid radical yn y sector Addysg Uwch i ddarparu lefel sylweddol uwch o addysg Gymraeg yn y sector.Dyma oedd geiriad y ddeiseb:‘Galwn ar Lywodraeth y Cynulliad i gadw at addewid cytundeb ‘Cymru’n Un’ o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:1. Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol2. Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru3. Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.Byddai unrhyw beth llai na chyfuniad cyflawn o’r uchod yn torri’r addewid. Galwn ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu cynlluniau os nad yw’r uchod yn rhan ohonynt.’Bydd aelodau'r Gymdeithas yn achub ar y cyfle fory i atgoffa'r gwleidyddion ym Mae Caerdydd o'r egwyddorion craidd sy'n rhaid cael yn eu lle wrth sefydlu'r Coleg Ffederal Cymraeg – yn anad dim mae coleg aml-safle ac nid “bwrdd” arall caiff ei sefydlu.Coleg ffederal Cymraeg - Cynllun Gweithredu, Tachwedd 2007 (Ail argraffiad, Tachwedd 2008) (pdf - 225kb)