Rhwydwaith dros ieithoedd lleiafrifol Ewrop yn cefnogi ymgyrch Deddf Eiddo

Mae’r Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (European Language Equality Network, ELEN) wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid cynnig i gefnogi cynigion Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru a sicrhau dyfodol i gymunedau Cymraeg heddiw (Dydd Sadwrn, 9 Tachwedd).

Mae ELEN yn fudiad lobio rhyngwladol sy'n cydweithio'n agos gyda'r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Ewrop a sefydliadau eraill i sicrhau tegwch i ieithoedd lleiafrifoledig a rhanbarthol ar draws Ewrop. Mae ei Chynulliad Cyffredinol blynyddol yn cael ei gynnal yn Bilbao, Gwlad y Basg penwythnos yma.

Yn gynharach yn y dydd, cymerodd Jeff Smith ac Owain Meirion o Gymdeithas yr Iaith, yn ogystal ag Emma Jenkin o Kowethas An Yeth Kernewek, Cernyw a Neus Sanchez Lendinez o Obra Cultural Balear o’r Ynysoedd Balearig ran mewn trafodaeth banel ar effaith ail dai a gor-dwristiaeth ar gymunedau ieithoedd lleiafrifol.

Wrth ymateb i lwyddiant y cynnig, dywedodd Dr. Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:

“Rydym yn falch o dderbyn cefnogaeth ELEN i’n hymgyrch ac ein gofynion polisi yn y maes hwn. Clywom yn y cynulliad am sefyllfaoedd cyffelyb o ar draws Ewrop a bu consensws bod system dai sy’n cael ei adael i’r farchnad agored wedi methu â sicrhau dyfodol ein cymunedau a'n hieithoedd lleiafrifoledig.

“Wrth ystyried yr argyfwng sy'n wynebu ein cymunedau a'r effaith trychinebus ar ieithoedd lleiafrifoledig, mae'n amserol iawn bod hyn yn ffurfio rhan o waith ELEN. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydweithio a rhannu profiadau er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau trwy well reoleiddio’r farchnad dai a sefydlu hawl gyfreithiol i dŷ digonol.”