Rhybudd: degau o ysgolion mewn perygl o gau Ysgol Meidrim

2026-05-28

Cartref > Newyddion > Rhybudd: degau o ysgolion mewn perygl o gau Ysgol Meidrim

Cyn i Gabinet Cyngor Sir Gâr gyfarfod fore Llun nesaf (1/6/26) i drafod cynnig i gyhoeddi Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Meidrim mae rhanbarth Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y cyngor "i droi dalen newydd". 

Yn y llythyr dywed y rhanbarth rhanbarth Caerfyrddin Sir Gâr nad oes dim rheswm da dros gau yr ysgol - fydd fawr ddim arbedion, dydy'r ysgol ddim yn methu, mae safon addysgol yr ysgol yn gwella'n gyson ac mae'n ysgol yn cynnig lle diogel a chartrefol i blant. Mae'r llythyr yn annog cynghorwyr i droi dalen newydd a chydweithio gyda llywodraethwyr yr ysgol ar gynllun a gyflwynwyd gan y llywodraethwyr.

Dywed y llythyr:
"Mawr yw eich cyfrifoldeb o ran y gymuned hon ac o ran ymddiriedaeth mewn prosesau ymgynghori. Mae dewis arall ar gael i chi heblaw am yr argymhelliad negyddol o gau'r ysgol. Gallech chi benderfynu dewis llwybr cydweithio...rhwng y gymuned, y Cyngor (dan arweiniad yr Adran Addysg) a Llywodraeth mewn partneriaeth ar gyfer y Gymru wledig." 

Mae'r llythyr yn rhybuddio hefyd y gallai 20 o ysgolion eraill y sir fod mewn perygl petai ysgol mor gryf ag Ysgol Meidrim dan fygythiad. 

Mae'r llythyr llawn i'w weld trwy bwyso yma
 

Pob newyddion