Rhyddhau ar fechniaeth heb gyhuddiad.

Protest Radio Carmarthenshire Mae'r 11 aelod o Gymdeithas yr Iaith a gafodd eu harestio ddoe yn dilyn y brotest yn stiwdio Radio Sir Gâr yn Arberth (Sir Benfro !) wedi cael eu rhyddhau - wedi treulio 12 awr mewn celloedd unigol - ar fechniaeth i ddychwelyd at Swyddfeydd Heddlu ym mi Medi.

* Nid ydynt wedi cael eu cyhuddo o unrhyw gyhuddiad hyd yma, ac felly nid yw'r mater yn sub-judice. Mae perffaith hawl gan y cyfryngau adrodd y rhesymau am y brotest - sef y ffeithiau anhygoel am Radio Sir Gâr. Nid ydynt yn darlledu o gwbl o Sir Gaerfyrddin er defnyddio ffug gyfeiriad yn Llanelli, a chwbl ffug yw eu rhaglenni "Cymraeg". Amserodd aelodau o'r Gymdeithas yr wythnos ddiwethaf faint o Gymraeg oedd yn eu rhaglen "Gymraeg" nosweithiol a chael fod 8 munud o Gymraeg mewn rhaglen 3 awr (wedi'i recordio mlaen llaw) gan eu bod yn gwrthod chawarae cerddoriaeth Gymraeg.* Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwadu hefyd nad oes unrhyw sail i honiad - sy'n cael sylw cyffredinol - fod gwraig wedi'i hanafu'n ystod y brotest. Trwy'r holl awr o hyd y brotest, aeth y wraig hon o gwmpas ei dyletswyddau heb awgrymu fod problem na cheisio unrhyw gymorth meddygol. Maew'r llun isod yn dangos mai gweithwyr Radio Sir Gâr a ddefnyddiodd rym corfforol yn erbyn aelodau o'r Gymdeithas i'w symud.Catrin yn cael ei charioPwyswch yma i weld y lluniau a Toriadau papurau newydd o'r digwyddiadWestern Mail 26/07/04Western Mail 27/07/04Western Mail 30/07/04Western Mail 11/08/04Stori BBC Cymru'r BydErthygl ar EurolangLlythr gan John Eckersley yn y Carmarthen JournalLlythr gan Mabon ap Gwynfor yn y Carmarthen JournalLlythr gan Llinos Dafydd yn y Carmarthen JournalLlythr gan Iwan Evans yn y Carmarthen JournalLlythr gan Gwyn Jones yn y Western Mail