S4C: Disgwyl clywed am gynnydd yn ei grant

Yn dilyn sylwadau gan Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud eu bod nhw dal i ddisgwyl clywed manylion am gan faint y bydd grant y Llywodraeth i S4C yn cynyddu’r flwyddyn nesaf.

Gwnaed addewid clir ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2015 i "diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C" dros dymor pum mlynedd Senedd San Steffan. Ac, yn natganiad Hydref y Canghellor, cyhoeddwyd y bydd cyllideb yr adran ddiwylliant yn codi o £65 miliwn dros y pedair mlynedd nesaf. Yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, cyfrannodd Llywodraeth Prydain £6.7 miliwn i S4C mewn grant o’r adran ddiwylliant.

Dywedodd Carl Morris Cadeirydd Grŵp Digidol y Gymdeithas:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gan faint y bydd grant y Llywodraeth i S4C yn cynyddu’r flwyddyn nesaf gan obeithio y clywwn ni cyn hir. Mae’n hunig sianel deledu Gymraeg nid yn unig yn hollbwysig i’n hiaith, ond yn rhan bwysig o’n heconomi hefyd. Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd cyllideb adran ddiwylliant y Llywodraeth yn cynyddu, ac mae ymrwymiad clir ym maniffesto’r Ceidwadwyr i ddiogelu’r grant. Dylai fod cyhoeddiad yn fuan sy’n cadarnhau y bydd S4C, fel un o gonglfeini diwylliannau Cymru, yn elwa drwy gynnydd yn ei grant.”