S4C: Y cyfryngau Cymraeg wedi torri - Angen creu model newydd ar gyfer dyfodol y Gymraeg

s4c-toriadau.jpgMae'r datblygiadau diweddar yn S4C, yn brawf pellach bod y system sy'n darparu ein cyfryngau Cymraeg wedi torri'n deilchion, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar i'r llywodraethau yng Nghymru a San Steffan ail edrych ar bob elfen o'r cyfryngau Cymraeg er mwyn gallu ffurfio strategaeth unedig sy'n cyfuno galluoedd gwahanol sefydliadau.Maent o'r farn bod angen cyhoeddwr cyfryngau Cymraeg er mwyn darparu cynnwys Cymraeg ar yr holl blatfformau - yn cynnwys teledu, radio, y wasg, cyfryngau ar-lein a ffilm.Dywedodd Rhodri ap Dyfrig:"Mae'r argyfwng diweddar yn S4C wedi amlygu'n glir bod angen edrych o'r newydd ar sut mae arian ar gyfer y cyfryngau Cymraeg yn cael ei ddosbarthu. Dylid sefydlu cyhoeddwr cyfryngau Cymraeg i weithredu uwchben S4C, ac yn lle Awdurdod S4C, yn ogystal â bod a grym dros sefydliadau eraill sydd yn ariannu cynnwys Cymraeg. Mae'n rhaid i bob sefydliad sydd yn gweinyddu elfennau o'r cyfryngau Cymraeg, gan gynnwys y BBC, hefyd ymatal rhag gwarchod eu tir a chwarae eu rhan mewn rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg, nid i'w buddiannau eu hunain."

"Rhaid rhoi blaenoriaeth i gyfryngau lleol, cyfryngau ar-lein, a lle i ddarparwyr bychan ac unigolion talentog ddarparu cynnwys neu wasanaethau. Mae gormod o bellter rhyngom ni a'n cyfryngau - rhaid cau'r bwlch.""Mae'r tân wedi diffodd ym mol ein cyfryngau. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o ail-gynnau'r tân hwnnw. Rhaid i ni roi cyffro yn ôl yn yr hyn rydyn ni'n gwylio, clywed a darllen er mwyn i'n cyfryngau barhau i fod yn berthnasol i'n bywydau ni."Mae'r toriadau arfaethedig i S4C yn gwbl annerbyniol ac mae'r mudiadau sydd yn cefnogi y Gymraeg byddwn yn ymgyrch. Rydym yn barod yn ymgyrchu i warchod y gwariant a'r Gymraeg ac y cyfryngau Cymraeg penodol."Deiseb S4C