Sefydlu Cynghrair i frwydro dros gymunedau Cymraeg

Bydd cynrychiolwyr o gymunedau Cymraeg yn ymgynnull yn Aberystwyth dydd Sadwrn (Ionawr 12) i drafod ffyrdd i gynnal ac adfywio’r iaith yn eu hardaloedd lleol. Cynhelir cyfarfod cenedlaethol cyntaf mudiad iaith newydd yn Y Morlan, Aberystwyth.

Eisoes, mae bron i 20 o gymunedau ar draws Cymru wedi ymuno a’r mudiad newydd, Cynghrair Cymunedau Cymraeg. Mae rhai cynghorau cymuned a chynghorau tref wedi ymaelodi, yn ogystal â mentrau cydweithredol a grwpiau cymunedol sydd â bwriad penodol i hybu’r Gymraeg ar lefel gymunedol.

Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd cadeirydd dros dro’r Gynghrair Craig ab Iago:

"Bu’n gyfnod cyffrous iawn i’r Gynghrair ers ei lawnsio mis Mehefin diwethaf. Penodwyd Menna Machreth yn gydlynydd y Gynghrair a dechreuodd ar ei gwaith o’r swyddfa yng Nghaernarfon ym mis Hydref."

"Pwrpas Cynghrair Cymunedau Cymraeg yw bod yn fforwm i gymunedau gydweithio a rhannu arferion da er mwyn grymuso eu hunain, a thrwy hynny, adfywio’r Gymraeg hefyd. Cyhoeddwn y bydd chwyldroi sefyllfa’r Gymraeg yn digwydd o’r gwaelod i fyny ac wrth fentro ac arloesi."

"Mae’r cyfarfod cenedlaethol cyntaf hwn felly yn gyfle pwysig er mwyn i’r aelodau presennol ac aelodau arfaethedig i ddod at ei gilydd i drafod sut y gellir cydweithio a pa fath o bethau gallwn fod yn ei wneud i gynnal a chryfhau’r Gymraeg ar lawr gwlad."

Wrth esbonio pam ymunodd y fenter Felin 70%+ , grŵp cymunedol sy’n annog pobl di-Gymraeg i ddysgu’r iaith ac yn cynnig cefnogaeth iddynt wrth wneud hynny, a’r gynghrair, dywedodd Aled Job:

"Un o'r rhesymau y mae Felin 70%+ wedi ymuno a Chynghrair Cymunedau Cymraeg yw ein bod yn teimlo ei bod hi'n bwysig iawn i ni fel cymuned i greu cysylltiadau hefo cymunedau Cymraeg tebyg mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Wrth fod yn rhan o Gynghrair fel hyn, rydym yn gobeithio gallu rhannu syniadau gyda chymunedau eraill am sut i gryfhau a datblygu ein cymunedau Cymraeg dros y blynyddoedd nesaf."

Ychwanegodd Marc Jones un o sefydlwyr menter gydweithredol y Saith Seren, Wrecsam, tafarn sy’n ganolfan Gymraeg ar gyfer Wrecsam:

"Mae angen brwydro dros yr iaith a normaleiddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol ymhob rhan o Gymru - yn wledig a dinesig. Dim ond 10 milltir o'r ffin ydan ni yn Saith Seren ond mae'n bosib codi ymwybyddiaeth o'r iaith yma. Mae cynnal cymunedau naturiol Gymraeg yn hanfodol fel cadarnleoedd i'r Gymraeg - gallwn fwydo oddi wrth llwyddiant ein gilydd. Dyna pam fod Saith Seren yn cefnogi Cynghrair Cymunedau Cymraeg sy'n tynnu'r holl ymgyrchoedd ar lawr gwlad i ddiogelu'r Gymraeg at ei gilydd."

Am fwy o wybodaeth am y Gynghrair ewch at http://cymunedau.org neu cysylltwch â Menna Machreth ar menna@cymunedau.org neu 01286 662904. Mae Menna ar gael i ddod i siarad â chymunedau ar draws Cymru am y Gynghrair a sut y gallent fod yn rhan o’r fenter.