Sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg - angen bod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth nesaf

Dylai sefydlu corff newydd i greu cynnwys Cymraeg ar-lein fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr.

Mewn papur manwl am eu cynigion i sefydlu ‘Menter Ddigidol Gymraeg’ sydd wedi ei lansio heddiw fel rhan o’r Eisteddfod AmGen, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau dros sefydlu corff a fyddai â’r “prif nod i gynyddu cyfleoedd i weld, clywed, creu a defnyddio'r Gymraeg ... ar draws llwyfannau ar-lein ac yn ddigidol”. 

[Darllener y papur llawn yma]

Er mwyn cyflawni’r nod hwnnw, mae’r mudiad yn cynnig y byddai’r Fenter yn gyfrifol am swyddogaethau gan gynnwys:

  • creu a chomisiynu cynnwys, profiadau a deunydd digidol newydd;

  • galluogi ac arfogi pobl ar lawr gwlad i greu deunydd o bob math yn Gymraeg, gan gynnwys grwpiau sydd wedi eu hallgau’n draddodiadol o’r byd digidol a’r iaith; a

  • dylanwadu ar, a gweithio gyda, wasanaethau fel Netflix, YouTube, Now TV a Spotify er mwyn gwella amlygedd cynnwys Cymraeg;

Mae’r cynnig yn rhan o weledigaeth ehangach Cymdeithas yr Iaith o’r enw ‘Mwy na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’ ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021, sydd hefyd yn argymell sefydlu mil o ofodau Cymraeg newydd a Deddf Addysg Gymraeg. 

Wrth lansio papur manwl am y Fenter Ddigidol Gymraeg, dywedodd Leia Fee, llefarydd technoleg Cymdeithas yr Iaith:

“Mae gweithredu agenda ‘mwy na miliwn’ o siaradwyr Cymraeg heb os yn golygu cynyddu defnydd yr iaith yn y byd digidol. Mae symudiadau amlwg wedi bod yn y cyfryngau yn y blynyddoedd diwethaf tuag at gynnwys ar-lein, gyda chyfryngau ar ffurfiau traddodiadol yn chwarae rôl llai a llai pwysig ym mywydau pobl yng Nghymru – yn enwedig ymhlith rhai grwpiau fel yr ifanc. Mae sefydlu corff pwrpasol i fynd ati i gomisiynu cynnwys ac arfogi pobl ar lawr gwlad i’w greu yn gam o bwys sylweddol felly. Wedi’r cwbl, mae datblygu’r Gymraeg ar-lein ac yn ddigidol yr un mor bwysig i’r Gymraeg ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg, datblygiad y wasg brintiedig yng Nghymru, a datblygiad radio a theledu – mae’n hanfodol.

“Yn y blynyddoedd diwethaf mae cwmnïau cyfryngol traddodiadol, y rhai mawr yn arbennig, wedi llwyddo i addasu i’r byd rhyngrwydol yr ydym bellach yn byw ynddo, gyda’u presenoldeb digidol yn ehangu'n aruthrol. Mae’r chwaraewyr mawrion hyn gyda dylanwad anferthol ar ddefnydd ieithoedd lleiafrifoledig. Felly rhan arall o’r dasg y bydd yn rhaid i’r Fenter Ddigidol ymgymryd â fe yw pwyso ar y cwmnïau mawr hyn i roi mwy o amlygrwydd i gynnwys Cymraeg ar eu llwyfannau.”

Dywed Cymdeithas yr Iaith y dylai fod gan y Fenter newydd cyllideb o hyd at £9 miliwn i greu, comisiynu ac amlygu cynnwys a phrofiadau Cymraeg ar-lein. Trafodir y cynigion mewn digwyddiad ar-lein am 1pm heddiw dros Zoom fel rhan o’r Eisteddfod Amgen.