Sky TV - “Who are’ya”!

SKY Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu’r penderfyniad Awdurdodau’r Steddfod i roi safle ar y maes i Sky TV. Ymddangosent gydag arddangosfa symudol mewn prif safle wrth y Pafiliwn Ddydd Sadwrn. Roedd eu harddangosfa gosod a rhyngweithiol oll yn uniaith Saesneg haeblaw am 1 poster bach o waith cartre’n gwahodd Eisteddfodwyr i wylio gemau rhyngwladol pêl-droed Cymru’n fyw ar Sky yn y dyfodol.

Aeth llawer o Eisteddfodwyr atynt i bwyntio allan fod Sky mewn gwirionedd yn amddifadu’n pobl o’r hawl i glywed sylwebaeth fyw yn Gymreag ar gemau Cymru gan iddynt brynu’r hawliau ecsliwsif a darlledu’n Saesneg yn unig. Datganodd Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith,“nad oedd yn deall pam fod y Steddfod wedi gosod safle i gwmni felly. Roedd Sky’n gweithredu’n union fel tim bant o gartre – heb ddealltwriaeth o’r maes na’r iaith na’r cefnogwyr gartre." Ychwanegodd :“Dyma brofi unwaith eto osodiad Cymdeithas yr Iaith yr wythnos hon - 'Cymru 2020: Colli Iaith, Colli Tir' - gan fod y Gymraeg yn colli tir ym maes darlledu hwfyd. Ugain mlynedd yn ôl, roedd S4C newydd yn un sianel o blith pedair, a Radio Cymru’n un donfedd ymhlith rhyw hanner dwsin o brif orsafau radio yng Nghymru.""Erbyn y flwyddyn 2020, bydd pobl Cymru’n gwylio degau o sianeli teledu fel Sky, ac yn gwrando ar orsafau radio lleol fel Radio Sir Gâr sydd wedi alltudio’r Gymraeg bron yn gyfangwbl. Dyma’r cwmniau preifat sydd wedi ennill y trwyddedi neu bynru’r hawl i orfodi eu diwylliant arnom. Cawn ein gorfodi i wylio, gwrando a thrafod popeth – o bêl-droed hyd foreau coffi’n Sir Gâr – yn Saesneg."“Colli tir y mae’r Gymraeg ym maes darlledu hefyd – a dyma her ymgyrchu pellach i Gymdeithas yr Iaith”