Symposiwm Addysg Gymraeg i Bawb yn pwysleisio: rhaid rhoi terfyn ar amddifadu 80% o’n plant o’r Gymraeg

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi cynigion ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal Symposiwm ym Mae Caerdydd i drafod ei Deddf Addysg Gymraeg ddrafft ei hun.

Dywedodd Catrin Dafydd ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Heddiw fe wnaethon ni glywed tystiolaeth ryngwladol gan Paul Bilbao Sarria o Wlad y Basg mai’r unig ateb i sicrhau siaradwyr hyderus yw addysg cyfrwng Cymraeg a bod modd mynd ag ysgolion Cymru i gyd ar daith i gyrraedd y nod hwn dros amser. Mae'r Bil Addysg Gymraeg mae'r Llywodraeth yn ei baratoi yn gyfle i roi’r Gymraeg hyd at ruglder i’r 80% sy’n colli allan ar hyn o bryd.
“Y plentyn a'i ddyfodol ddylai fod yn ganolog i unrhyw benderfyniadau addysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod angen cael dewis rhwng addysg Gymraeg ac addysg Saesneg, ond chafodd 80% o blant erioed ddewis mewn gwirionedd. Mae rhoi’r Gymraeg hyd at ruglder i bawb yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.”

Yn siarad yn y digwyddiad dywedodd Keith Bush, Cymrawd Cyfraith Cymru, a luniodd Ddeddf y Gymdeithas: “Mae’n ymddangos i fi ein bod ni wedi cyrraedd man lle nad yw’n gynaliadwy, bellach, i drin y Gymraeg fel iaith ‘leiafrifol’. Bellach mae ei statws yng Nghymru wedi datblygu’n statws iaith genedlaethol - un o ddwy iaith y mae angen i bob plentyn yng Nghymru fedru eu defnyddio’n effeithiol - o ran siarad, darllen ac ysgrifennu.”
“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi herio pwy bynnag sydd â gweledigaeth wahanol i esbonio sut mae cyfianwhau amddifadu’r mwyafrif o blant Cymru, am amser amhenodol, o’u hawl gynhenid i addysg drwyadl Gymraeg.”

Ychwanegodd cadeirydd y symposiwm, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones,
“Yn y system addysg mae'n rhaid i ni osod nod heddiw er mwyn gallu cynllunio i gyrraedd ein huchelgais fel gwlad erbyn 2050. Mae ymchwil - gan gynnwys ar lefel rhyngwladol - yn hollbwysig er mwyn cyflawni hyn.”

Mae rhagor o luniau o'r digwyddiad i'w gweld yma a'r Ddeddf Addysg i'w gweld yma