Targedu Siopau a chwmniau yn yr ymgyrch Deddf Iaith Newydd

deddf_iaith_newydd.gifDros nos bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg allan yn gweithredu dros Ddeddf Iaith newydd yn Aberystwyth drwy ludio sticeri 'Ble Mae'r Gymraeg' a Deddf Iaith Newydd ar siopau a busnesau yn y dre.

Targedwyd Halifax, Laura Ashley, Savers, Game, Jessops, JD Sports, Burton/DP a Barclays ymysg eraill.Mae hyn yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaithac yn mynd law yn llaw gyda’r peintio sloganau fu ar swyddfa llywodraeth y Cynulliad dros y mis diwethaf. Arestiwyd deuddeg hyd yn hyn dros y mis diwethaf yn yr ymgyrch honno. Ymgyrch sy’n siwr o barhau.Fel rhan o’r un ymgyrch cynhelir rali dros Ddeddf Iaith yng Nghaerfyrddin ar Ragfyr 3ydd. Ond penllanw yr ymgyrch fydd cyfarfod cyhoeddus gynhelir yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar Ionawr 24ain lle bydd John Elfed Jones, Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn siarad.04-din-aber-hydref05.JPG04-din-aber-hydref05.JPG04-din-aber-hydref05.JPG04-din-aber-hydref05.JPG